Mwy o Newyddion
Galw am fuddsoddiad isadeiladedd i roi terfyn ar ddiffyg twf economaidd
Mae llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys yn San Steffan, Jonathan Edwards AS, wedi croesawu gostyngiad yn y ffigyrau diweithdra, ond rhybuddion fod y DU yn dioddef diffyg twf economaidd ac angen buddsoddiad creu-swyddi er mwyn helpu pobl i ganfod gwaith a delio gyda’r diffyg ariannol.
Dywedodd hefyd fod Cymru angen pwerau creu-swyddi fe y gallwn wneud pethau ein hunain, yn hytrach na gorfod aros am San Steffan.
Wrth rybuddio fod polisiau cynilo’r glymblaid yn gadael y DU a Chymru mewn twll economaidd, dywedodd Mr Edwards: "Tra fy mod yn croesawu’r newyddion fod ffigyrau diweithdra Cymru a’r DU wedi gostwng rhywfaint, ni allwn anghofio fod y DU newydd ddychwelyd i ddirwasgiad a bod y Llywodraeth yn parhau i fethu taclo achosion craidd diffyg gweithgaredd economaidd.
“Dyna pam fod Plaid Cymru yn parhau i alw am raglan synhwyrol o fyddsoddiad isadeiledd mewn ffyrdd, ysgolion, ysbytai a thai a fydd helpu pobl i ganfod gwaith.
“Yr wythnos diwethaf methodd Araith y Frenhines wneud hyn ac felly rydym wedi cynnig gwelliant yn galw am bolisiau i greu twf, yn cynnwys cefnogaeth ariannol ar gyfer busnesau bach, buddsoddiad isadeiledd, ac i daclo diweithdra.
“Mae Banc Lloegr eto wedi israddio’r rhagolygon twf, sy’n dangos cyflwr gwael yr economi, tra bod tan-weithdra a gweithio rhan amser bellach yn ffordd o fyw.
“Nid yw hi’n rhy hwyr i’r Ceidwadwyr a’r Rhyddfrydwyr gyfaddef eu bod yn anghywir a buddsoddi mewn swyddi a thwf yn hytrach na pharhau gyda’r toriadau sy’n sugno bywyd o’r economi.
“Methiant polisiau economaidd Llundain yw’r rheswm pam fod angen pwerau creu-swyddi yng Nghaerdydd i helpu’r economi Gymreig, megis treth gorforaeth neu’r gallu i fenthyca ar gyfer buddsoddi.
“Nid wyf yn deall pam fod gwell gan Lafur yng Nghymru weld y Toriaid yn San Steffan yn gwneud y penderfyniadau hynny, yn hytrach na ni yng Nghymru."
Llun: Jonathan Edwards