Mwy o Newyddion
Papur Gwyn ar Hybu Democratiaeth Leol i ailwampio’r Comisiwn Ffiniau
CAFODD Papur Gwyn sy’n gofyn am sylwadau ar gynigion i wella democratiaeth leol ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori yr wythnos yma.
Dywedodd Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, y bwriedir i lawer o’r cynigion yn y papur gael eu cynnwys yn un o Filiau’r Cynulliad – Bil Democratiaeth Leol (Cymru) – y mae’r Gweinidog yn bwriadu ei gyflwyno yn yr hydref.
Un agwedd allweddol o’r Bil yw newid y ffordd y mae’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn gweithredu. Nod y Bil yw ailgynllunio rheolau gweithredu’r Comisiwn a diwygio strwythur a swyddogaethau’r Comisiwn.
Mae’r Papur Gwyn hefyd yn gwneud cynigion sydd â’r nodau canlynol:
- ei gwneud yn haws cael gafael ar wybodaeth am Gynghorau Tref a Chymuned
- gwneud y dull o reoli etholiadau yng Nghymru yn fwy effeithiol, o ran ei drefniadaeth a’r dull ariannu, yn ogystal ag annog cymaint o bleidleiswyr â phosibl i gofrestru;
- cryfhau swyddogaeth graffu llywodraeth leol er mwyn sicrhau ei bod yn cynnig atebolrwydd cyhoeddus cadarn ac yn sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau cyhoeddus yn lleol ac yn rhanbarthol;
- sicrhau bod yr hyfforddiant a’r datblygiad a gynigir i gynghorwyr yn gwella, o ran eu gallu i arwain yn lleol a bod yn gynrychiolwyr cymunedol effeithiol wrth gyfranogi yn y broses ddemocrataidd leol.
Dywedodd Carl Sargeant: “Mae’r Papur Gwyn hwn yn gam arall yn ymgyrch Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ein democratiaeth leol yn gweithredu mor effeithlon â phosibl er mwyn cwrdd â heriau’r diwygiadau presennol i’r dulliau o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
“Mae angen i ni sicrhau bod ein hawdurdodau lleol yn cynrychioli eu cymunedau yn ddemocrataidd, yn cael eu trefnu yn y ffordd fwyaf effeithiol, yn cyfathrebu’n dda â’r cyhoedd ac yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth i ymdopi â’r newidiadau yn y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu i’r cyhoedd.
“Mae llawer o gynnwys y Papur hwn wedi deillio o argymhellion Adroddiad Mathias ar y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin y llynedd. Canfu’r adroddiad nad oedd y Comisiwn yn addas at y diben ar y pryd, a galwodd am ddiwygiadau sylweddol i fethodoleg y Comisiwn wrth gynnal ei adolygiadau o’r trefniadau etholiadol ym mhob sir.
“Mae’r Papur Gwyn yn cynnig newidiadau i enw, strwythur a swyddogaethau’r Comisiwn. Yr angen o hyd yw sicrhau bod cynghorau Cymru yn cael eu hethol yn ddemocrataidd, gyda phob cynghorydd yn cynrychioli’r un nifer o etholwyr, hyd y gellir. Ond mae’n rhaid i ni ystyried rhwymau cymunedol wrth wneud hynny. Rwy’n gobeithio y bydd y cynigion yn y Papur Gwyn hwn yn helpu’r Comisiwn ar ei newydd wedd i gyflawni hynny.”