Mwy o Newyddion
Adborth gan gleifion i fesur safon y GIG yn y dyfodol
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau er mwyn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn derbyn gofal o’r radd flaenaf ar yr adeg ac yn y lle y bydd ei angen arnyn nhw.
Bydd adborth gan gleifion yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o fonitro a gwella gwasanaethau gofal iechyd. Caiff canlyniadau’r broses hon eu cyhoeddi i bawb gael eu gweld.
Mae “Rhagori: Y Cynllun Sicrhau Ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru 2012-16” yn diwallu ymrwymiad pwysig a amlinellwyd yn “Law yn Llaw at Iechyd”, gweledigaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer y GIG yng Nghymru.
Yn “Law yn Llaw at Iechyd”, addawodd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, gyflwyno systemau ar gyfer sicrhau gofal o safon a gwella ‘canlyniadau’ iechyd fel bod Cymru gyda’r gorau yn y byd ym maes gofal iechyd.
Chwe mis ar ôl cyhoeddi “Law yn Llaw at Iechyd”, dywedodd Lesley Griffiths: “Mae angen i ni sicrhau bod pob claf, bob dydd, yn cael gofal o safon uchel ar yr adeg ac yn y lle y bydd ei angen arnyn nhw.
“Mae’n rhaid i ni allu dangos yn glir ein bod ni’n gwneud y peth cywir, yn y ffordd gywir, yn y man cywir, ar yr adeg gywir gyda’r staff cywir.
“Mae’r Mentrau 1000 o Fywydau wedi dangos i ni beth sy’n bosibl pan fyddwn yn canolbwyntio’n ddiflino ar wella. Mae’r cynllun yr wyf wedi’i gyhoeddi heddiw yn adeiladu ar yr hyn sydd ar waith eisoes. Mae’n amlinellu nifer o bethau y mae disgwyl i’r GIG eu gwneud i sicrhau bod y profiad yn un rhagorol i’r claf o ran diogelwch, urddas a pharch yn ystod y gofal a ‘chanlyniad’ y gofal.
“Nawr, awn ati i ddatblygu ymagwedd genedlaethol tuag at fesur profiad y claf. Bydd hyn yn ein galluogi ni i wybod barn y cyhoedd am y GIG yng Nghymru mewn ffordd nad oedd yn bosibl o’r blaen. Caiff canlyniadau adborth y cleifion eu cyhoeddi, ar y cyd â’r archwiliad clinigol cenedlaethol ac adolygiadau o ganlyniadau.”
Mae ‘Rhagori: Y Cynllun Sicrhau Ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru 2012-16’ ar gael yma: www.wales.gov.uk/topics/health/publications/health/strategies/excellence/?lang=cy
Llun: Lesley Griffiths