Mwy o Newyddion
Cyngor Gwynedd yn ethol Caderirydd ac Arweinydd
Yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Gwynedd ar 17 Mai, etholwyd y Cynghorydd Selwyn Griffiths (Porthmadog - Gorllewin) yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, a’r Cynghorydd Huw Edwards (Caernarfon - Cadnant) yn is-Gadeirydd. Yn yr un cyfarfod ail-etholwyd y Cynghorydd Dyfed Edwards (Penygroes) yn Arweinydd y Cyngor.
Yn Gynghorydd Gwynedd ers 2004, mae’r Cynghorydd Selwyn Griffiths hefyd yn aelod o Gyngor Tref Porthmadog ac ar hyn o bryd yn aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.
Wrth gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Griffiths: “Mae hi’n anrhydedd cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i’r flwyddyn sydd i ddod, a byddaf yn gwneud fy ngorau i wasanaethu a hybu gwaith y Cyngor a holl drigolion Gwynedd.”
Etholwyd y Cynghorydd Huw Edwards yn Is-Gadeirydd y Cyngor. Mae’n aelod o Gyngor Gwynedd ers 2005.
Yn yr un cyfarfod, ail-etholwyd y Cynghorydd Dyfed Edwards yn Arweinydd Cyngor Gwynedd. Yn Gynghorydd Gwynedd ers 2004, fe’i etholwyd yn Arweinydd y Cyngor yn 2008. Mae hefyd yn Arweinydd Grwp Plaid Cymru ar y Cyngor.
Ar ei ethol yn Arweinydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Mae’n fraint gen i dderbyn y sialens o arwain Cyngor Gwynedd am y bum mlynedd nesaf ac hefyd hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i drigolion Penygroes am yr anrhydedd o’u cynrychioli ar y Cyngor newydd. Rwy’n edrych ymlaen i weithio ochr yn ochr gyda’m cyd-aelodau a swyddogion y Cyngor er mwyn cyrraedd at y nod o greu Gwynedd well lle bydd ein cymunedau a’r iaith Gymraeg yn ffynnu.
“Mae’r cyd-destun heriol yn golygu bod trigolion y sir yn edrych tuag atom ni ar Gyngor Gwynedd i greu agenda amgen - agenda o gyfiawnder cymdeithasol, darparu gwasanaethau o'r radd flaenaf ac agenda o newid er gwell.
“Fel un o dîm y byddaf yn arwain y gwaith hwn ac mae bawb gyfraniad i’w wneud - yn aelodau o bob plaid, swyddogion a gweithlu'r Cyngor.”
Yn aelod o Gyngor Cymuned Llanllyfni, mae’r Cynghorydd Dyfed Edwards yn Gyfarwyddwr ar Antur Nantlle ac Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Dyffryn Nantlle, mae’n wirfoddolwr gyda chlwb ieuenctid IwthPen ym Mhenygroes ac mae hefyd yn lywodraethwr ar Ysgol Bro Lleu ac Ysgol Dyffryn Nantlle.
Mae’n dad i ddau o blant, Gwenno Mair sy’n 20 ac Elin Rhiannon sy’n 17 oed. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn chwaraeon, yn enwedig pêl-droed a rygbi, ac mae hefyd yn mwynhau’r celfyddydau.
Llun: Selwyn Griffiths a Huw Edwards
Llun: Dyfed Edwards