Mwy o Newyddion
Cyngor Abertawe yn ethol arweinydd newydd
Mynd i'r afael â thlodi fydd prif flaenoriaeth yr awdurdod dros y blynyddoedd nesaf yn ôl arweinydd newydd Cyngor Abertawe.
Dywedodd y Cyng. David Phillips y bydd y cyngor yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â chylchred amddifadedd sy'n bla ar gymunedau yn Abertawe.
Bydd addysg, swyddi, adfywio, iechyd a thai i gyd yn rhan o uchelgais y cyngor i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i deuluoedd ar draws y ddinas.
Meddai'r Cyng. Phillips: "Mae'n anrhydedd mawr fy mod wedi fy mhenodi yn Arweinydd Dinas a Sir Abertawe .
"Mae Abertawe'n ddinas wych ac rwyf am i'r cyngor wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
"Uchelgais y cyngor yw mynd i'r afael â thlodi a dod â'r gylchred amddifadedd sy'n bla ar gynifer o'n cymunedau i ben. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i bob teulu yn y ddinas.
"Trwy weithio gydag asiantaethau yn y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol, mae gennym gyfle i greu dyfodol gwell, mwy optimistaidd i'n cymunedau."
Penodwyd y Cyng. Phillips yn Arweinydd y Cyngor ddydd Mawrth. Mae wedi gwasanaethu'r cyngor ers 1996 fel aelod o Ward y Castell. Yn flaenorol, roedd yn Aelod y Cabinet dros Gyllid tan 2004.
Dywedodd y byddai'r cyngor yn canolbwyntio ar sawl thema, gan gynnwys:
• Addysg: darparu ysgolion yn eu cymunedau a darpariaeth feithrin o safon.
• Swyddi ac adfywio: datblygu economi wybodaeth, gwella canol y ddinas a chanolfannau masnachol maestrefol a chynyddu twristiaeth.
• Cysylltiadau cludiant cryf: datblygu cludiant cyhoeddus a gwella cyfleusterau i feicwyr, cerddwyr ac ymwelwyr.
• Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: canolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn gynnar a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
• Tai: gwella tai cyngor a chefnogi byw'n annibynnol ac opsiynau i bobl h?n.
• Y celfyddydau, diwylliant a chwaraeon: cynyddu gweithgareddau celfyddydol a diwylliannol, datblygu cyfleusterau chwaraeon ac adeiladu ar dreftadaeth y ddinas, gan gynnwys dathliadau canmlwyddiant Dylan Thomas yn 2014.
• Cymunedau cryfach a mwy diogel: mynd i'r afael â diweithdra ieuenctid a hyrwyddo diogelwch cymunedol.
Dechreuodd profiad llywodraeth leol y Cyng. Phillips ym 1978 pan gafodd ei ethol i Gyngor Dosbarth y Preseli rhwng 1978 a 1982 cyn gwasanaethu ar Gyngor Sir Gorllewin Morgannwg rhwng 1993 a 1996.
Mae ei yrfa y tu allan i lywodraeth leol yn cynnwys gweithio fel prynwr ar gyfer cadwyn manwerthu, swyddog tollau, swyddog TAW a chyfrifydd treth gyda Coopers and Lybrand. Mae ei rolau eraill yn cynnwys Prif WeithredwrCinema For All, sefydliad sy'n cefnogi cymdeithasau ffilm, Golygydd y cylchgrawn Film a chyfarwyddwr cwmni cynhyrchu ffilmiau.