Mwy o Newyddion
Cofeb deilwng i wŷr ‘y pethe a’r pridd’ wrth gyflwyno Cadair Eisteddfod yr Urdd Eryri
Dathlu bywyd dau ŵr arbennig yw bwriad teulu Fron Olau, Rhoslan ger Cricieth yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012, a choffáu cariad y teulu cyfan tuag at ddiwylliant Cymru a’i hieuenctid. Cyflwynir Cadair Eisteddfod yr Urdd eleni am gyfansoddi cerdd gaeth neu rydd ar y testun ‘Cylchoedd’ er cof am dad a mab arbennig, sef Meirion Parry a Ceredig Parry, Fron Olau, Rhoslan. Bydd dydd Iau'r Eisteddfod, 7 Mehefin, yn ddiwrnod chwerw felys i’r teulu, gwraig a mam y ddau, Edith Parry, ei merch, y ddarlledwraig, Bethan Jones Parry ac i Eleri, gweddw Ceredig, a'i fab, Gwynant Rhys .
“Mi fyddai’r ddau wrth eu boddau eu bod nhw’n cael eu coffáu â’r Eisteddfod yn Eryri,” eglura Bethan Jones Parry sy’n byw bellach gyda’i theulu ym Mhencaenewydd ger Pwllheli. “Dyn y pethe oedd dad, a dyn y pridd oedd Ceredig, yn ffermio’r fferm deuluol, ond roedd y ddau yn Gymry i’r carn.
"Mi fuo Dad yn weithgar efo’r Urdd am flynyddoedd maith, yn ystod ei gyfnod yn athro ysgol ac yna’n brifathro am nifer fawr o flynyddoedd. Bu ei gyfnod fel Prifathro yn Ysgol Chwilog ac yna Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog yn gyfle iddo feithrin pobl ifanc ym mywyd a gwaith Adrannau ac Uwchadrannau’r Urdd a bu’n arwain nifer o Eisteddfodau Cylch a Sir am flynyddoedd hefyd. Roeddem fel teulu yn ei gweld hi’n gyfle gwerth chweil yn Eisteddfod yr Urdd eleni i gofio am ŵr, tad, brawd a thaid annwyl iawn.”
Bu farw Ceredig Parry nôl yn 2009 yn dilyn gwaeledd, yn ŵr ifanc, 50 oed, gan adael gwraig, Eleri, a mab, Gwynant Rhys sydd bellach yn 13 oed. Flwyddyn ynghynt y collodd y teulu’r gŵr hynaws, Meirion Parry. Mae cyflwyno’r gadair yn gyfle i ddathlu bywyd y ddau a gyfrannodd cymaint i’w cymunedau a’u hardaloedd gwledig.
Cyfaill i’r teulu a chrefftwr o’r radd flaenaf, Llewelyn Wyn Jones o Rhosfawr ger Pwllheli yw gwneuthurwr y gadair. Mae’n gweithio fel saer ers dros hanner can mlynedd, a choeden dderw leol a ddefnyddiodd i greu’r gadair. Disgrifia’r gadair fel cadair blaen, ddefnyddiol, gyda llechen o Ddyffryn Nantlle wedi ei gosod mewn panel yng nghefn ucha’r gadair. Roedd cynnwys y llechen yn bwysig i deulu Fron Olau, gan bod llinach y teulu o’r ddwy ochr yn deillio o Ddyffryn Nantlle. O dan y llechen sydd â’r llinell wyrddlas nodweddiadol o chwareli Dyffryn Nantlle yn rhedeg drwyddi, mae cerfiad cywrain o lwybr a choed. Mae’r cerfiad yn adlewyrchu ysblander y Lôn Goed, sydd dafliad carreg o gartref y teulu yn Fron Olau.
“Gan mod i’n nabod Bethan a’r teulu, roedd hi’n fraint cael creu’r gadair er cof am Meirion a Ceredig Parry,” eglura Llew Jones. “Dwi wedi creu nifer o gadeiriau llai i eisteddfodau bach fel Steddfod Ffôr a Chwilog, ac mae gen i ddegau o stolion bach pren ar gyfer achlysuron arbennig yn y gweithdy.
"Mae hi’n fraint fawr cael creu cadair i Steddfod fawr fel hon ar ein stepan drws. Mae’n gadair lydan gyda dwy fraich a’r ddwy goes flaen wedi ei thurnio. Mae 'na dro ar flaen y gadair ac mae’r cefn yn gorwedd yn ôl fymryn. Rhyw wythnos dda gymrodd i mi ei chreu, a dyma’r tro cyntaf i mi greu cadair i Eisteddfod yr Urdd. Dwi’n gobeithio’n fawr y bydd teilyngodd yn ystod yr wythnos ac y caiff hi gartref da yn rhywle!”
Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Mae hi wastad yn fraint cael gweld y gadair am y tro cyntaf, a dyw eleni’n ddim gwahanol. Mae’n wefr gwybod bod crefftwr fel Llew wedi gweithio’n ddygn arni a bod Bethan a’i mam wedi cael y cyfle i gynnig nodweddion sy’n arbennig iddyn nhw, fel teulu, yn ei dyluniad. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb am eu cydweithrediad ac i Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans am eu nawdd. Bydd y gadair yn cymryd ei dyledus le ar lwyfan yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos.”
Noddir cystadleuaeth y gadair eleni gan Ymddiriedolaeth Ivor ac Aeres Evans. Beirniaid un o brif gystadlaethau’r Eisteddfod fydd Rhys Iorwerth ac Ifan Prys.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri 2012 ar dir Coleg Meirion Dwyfor yng Nghlynllifon (Ffordd Clynnog, Glynllifon) ger Caernarfon, Gwynedd o’r 4 i’r 9 o Fehefin 2012.
Llun: Bethan Jones Parry a theulu Fron Olau, Rhoslan ger Cricieth, rhoddwyr y gadair eleni sy’n ei chyflwyno i’r Eisteddfod er cof am dad a mab arbennig, sef Meirion Parry a Ceredig Parry; gydag Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a Llewelyn Wyn Jones o Rhosfawr ger Pwllheli, y saer medrus a greodd gadair yr Urdd Eryri 2012