Mwy o Newyddion
Môr a mynydd yn ysbrydoliaeth i Goron Eisteddfod yr Urdd Eryri
Crefftwr profiadol, John Price o Fachynlleth, sydd wedi cynllunio coron Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012, a hon fydd y goron gyntaf iddo ei chreu ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Gan ddwyn dylanwad o dirwedd mynyddig Eryri a’r traddodiad glan môr, mae’n addas iawn mai Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri sy’n cyflwyno’r goron i’r Urdd eleni.
“Dyma’r tro cyntaf erioed i mi greu coron i Eisteddfod yr Urdd,” eglura John Price sy’n wreiddiol o Ynys Môn ond sy’n byw ers blynyddoedd lawer ym Machynlleth gyda’i wraig ac sy’n dad i bedwar o blant. Ond er mai dyma’r tro cyntaf iddo weithio ar goron i’r Urdd, mae John yn hen law ar y gwaith.
“Dwi wedi creu ymhell dros gant o goronau dros y blynyddoedd, i amryw o steddfodau, gan gynnwys Eisteddfod Llandegfan, Eisteddfod Môn, Eisteddfod Powys a’r Genedlaethol. Hobi llwyr ydi hi i mi, ond dwi’n cael pleser mawr yn y gweithdy. Mae hi’n wefr cael cynllunio coron i brifwyl ieuenctid yr Urdd, a dwi’n mawr obeithio y bydd enillydd i fynd o dan y goron ymhen ychydig wythnosau yng Nglynllifon!” meddai.
Disgrifia John y goron fel coron draddodiadol o fand arian, gyda chwpled arbennig wedi ei ysgythru i’r band o dan driban yr Urdd sydd wedi ei enamelo yn lliwiau’r Urdd, coch, gwyn a gwyrdd. Noddwyr y goron, y Parc Cenedlaethol, drefnodd gystadleuaeth i annog beirdd ifanc i osod eu marc ar y goron eleni. I’r brig, daeth Gruffydd Antur, 20 oed o Aelwyd Pantycelyn, Aberystwyth ac mae’r cwpled yn cymryd ei ddyledus le yng nghanol y goron: ‘Pery awen y llenor; Pan na fydd mynydd na môr.’
“Bob ochr i fathodyn yr Urdd, mae mynyddoedd Eryri, y gair “Eryri” a “2012” wedi’u hysgythru arnynt i nodi lleoliad yr Eisteddfod eleni ac o dan y mynyddoedd mae llynnoedd Eryri. Ond mae'r siapiau yma hefyd yn cynrychioli hwylio ar donnau’r môr a’r llamhidyddion yn nofio yn y dŵr. Bob ochr i’r cwpled mae mesen, deilen y dderwen a dau flodyn. ‘O’r fesen fach y tyf y dderwen fawr’. Beth sydd o flaen yr awdur ifanc buddugol, ys gwn i be’ fydd ganddo fo neu hi i’w gynnig i ni i’r dyfodol? Mae lili’r wyddfa, blodyn unigryw Eryri a chennin Pedr i gynrychioli delwedd y Parc Cenedlaethol fel noddwyr hefyd i’w gweld ar y goron. I orffen y cwbl, mae’r cap o ddefnydd porffor yn cyfleu lliwiau godidog chwareli llechi’r ardal a grug y mynydd,” eglura John.
Bydd y goron, o arian pur, yn cael ei chyflwyno i’r enillydd am greu darn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema ‘Egin.’ Beirniaid y gystadleuaeth eleni fydd Catrin Dafydd a Meg Elis.
Yn ôl Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri: “Mae hi’n anrhydedd i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gael noddi’r goron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd - Eryri 2012. Mae mynyddoedd a môr yn rhan annatod o nodweddion Eryri a dyma yw thema dyluniad y goron, sydd wedi cael ei chreu mor gelfydd trwy grefft a goruchwyliaeth John Price. Rydym hefyd yn hynod o falch o fod yn rhan o’r bartneriaeth gyda’r Urdd a Chyngor Cefn Gwlad Cymru i lansio Ysgoloriaeth Geraint George, er cof am un a weithiodd yn ddiflino i annog cyfleoedd a mwynhad i Gymry Cymraeg ifanc ym maes yr amgylchedd.”
Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac i John Price am eu hymroddiad a’u hymrwymiad i gystadleuaeth y goron eleni. Mae cydweithio agos wedi bod rhyngddynt wrth ddylunio a datblygu’r goron, ac mae’r gwaith gorffenedig yn werth ei weld. Bydd pawb yn gobeithio y bydd teilyngdod yn ystod yr wythnos a chyfle i un enillydd fynd adref â choron arbennig o hardd yn ei feddiant.”
Ond bydd gwneuthurwr y goron, John Price, yn absennol o’r ŵyl ar ddechrau wythnos yr Eisteddfod eleni. Ag yntau wedi ymddeol fel athro gwaith metel/CDT ers sawl blwyddyn, bydd yn mynd efo criw o ferched ar daith arbennig iawn. Mae criw o ferched, aelodau o Ferched y Wawr, o dan arweiniad Einir Wyn o Ben Llŷn, yn teithio ar feics o Abertawe yr holl ffordd i faes Eisteddfod yr Urdd yng Nglynllifon er mwyn codi arian tuag at ymchwil cancr yr wy gelloedd. A’r gŵr fydd yn gyrru’r cerbyd ac yn cefnogi’r criw gyda’i fag tŵls yn y cefn? Gwneuthurwr y goron eleni!
Cynhelir yr Eisteddfod eleni ar dir Coleg Meirion Dwyfor yng Nglynllifon (Ffordd Clynnog, Glynllifon) ger Caernarfon, Gwynedd o’r 4 i’r 9 o Fehefin 2012. Am docynnau mynediad neu ar gyfer y cyngherddau, ewch i wefan yr Urdd, www.urdd.org/eisteddfod neu galwch 0845 257 1639.
Llun: Meriel Parry, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 gyda’r crefftwr a greodd y goron John Price o Fachynlleth, Aneurin Phillips, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, rhoddwyr y wobr yn Eryri a Sharon Fôn-Roberts o’r HSBC, noddwyr y gystadleuaeth