Mwy o Newyddion

RSS Icon
05 Mai 2012

Rhwyf hynt ar Fôr Iwerddon

Bydd tri aelod o staff ac un myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth yn rhwyfo ar draws Môr Iwerddon y penwythnos hwn (4-6 Mai) fel rhan o’r ras rhwyfo’r Her Geltaidd a fydd yn gweld 23 o dimau yn rhwyfo o Arklow yn Iwerddon i Aberystwyth.

Fe fydd Hannah Payne sy'n gweithio yn y Swyddfa Ymchwil, Dr Phillipa Nicholas a Dr Rosemary Collins o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) a Sue Walker, myfyriwr ail flwyddyn o'r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, yn ffurfio rhan o dîm o 12 o ferched o Glwb Rhwyfo Aberystwyth.

Mae’r Her eleni, sydd wedi gweld y nifer mwyaf o gystadleuwyr, yn dibynnu yn llwyr ar y tywydd yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc ym mis Mai o ran amser cychwyn. Maent yn anelu dechrau’r ras ar brynhawn ddydd Sadwrn â chyrraedd Aberystwyth fore Sul.

Mae'r tîm o ferched, a fydd yn rhwyfo pellter o tua 90 milltir, yn cymryd rhan yn yr Her er mwyn codi arian hanfodol ar gyfer Apêl Elain www.apelelain.com a sefydlwyd gan deulu lleol yn Aberystwyth i godi arian ar gyfer pedair elusen.

Eglurodd Hannah, sydd hefyd yn is-gapten y tîm rhwyfo, "Mae’r digwyddiad yma yn cymryd lle bob dwy flynedd. Fyddwn ni’n defnyddio llong hir Geltaidd sydd tua 25 troedfedd o hyd sydd ddim ond yn gallu cymryd pedwar rhwyfwyr ac un llywiwr ar un adeg.

"Mae pob tîm yn cynnwys 12 o bobl sy'n cymryd eu tro i rwyfo, gan dreulio amser ar gwch cynorthwyol a fydd yn helpu ni i gyfnewid y criw. Pa mor aml rydym yn cyfnewid rhwyfwyr a sut y maent yn cael eu defnyddio, fydd rhan o’n tactegau ni yn ystod y ras.

"Mae'r ras yn brawf eithafol o ddygnwch ac yn gyffredinol yn cymryd rhwng 15 a 24 awr i'w gwblhau, yn dibynnu ar y tywydd. Bydd y ras gobeithio yn dechrau yn y pnawn gyda phob tîm yn rhwyfo drwy gydol y nos ac yn cyrraedd Aberystwyth yn y bore. "

Mae Apêl Elain yn cefnogi Ambiwlans Awyr Cymru, Uned y Galon Plant Cymru, Ysbyty Plant Bryste a Thŷ Ronald McDonald ym Mryste. Mae'r pedair elusen wedi bod yn hollbwysig o ran darparu ansawdd y gofal yn ystod amser teulu’r James’ yn yr ysbyty, tra bod eu merch Elain yn derbyn triniaeth hanfodol ar gyfer clefyd cynhenid y galon. Os hoffech gyfrannu, ewch i www.charitygiving.co.uk/aber_ladies_cc2012

Lansiwyd yr Her Geltaidd yn 1993 a gynhaliwyd bob dwy flynedd tan 2001. Cafodd y ras yn 2001 ei chanslo oherwydd cyfyngiadau a osodwyd yn ystod argyfwng clwy'r traed a'r genau a’i hail-drefnu ar gyfer 2002.

Llun: (O’r chith i’r dde) Dr Phillipa Nicholas, Sue Walker, Hannah Payne a Dr Rosemary Collins yn ymarfer ar gyfer yr Her Geltaidd.

 

Rhannu |