Mwy o Newyddion
Hyrwyddwr dwyieithrwydd yn hybu'r Gymraeg yn y gweithle
Penodwyd Hyrwyddwr Dwyieithrwydd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) i sicrhau bod modd dilyn llwybr dysgu seiliedig ar waith trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Bydd Ryan Evans sy’n 28 oed ac yn ieithydd o Ddoc Penfro yn ymuno â thîm NTfW yng Nghaerdydd ar gontract 29 mis ar ôl treulio bron chwe blynedd fel rheolwr cyllid a swyddog datblygu’r Gymraeg gyda PRP Training Ltd.
Bydd yn cydweithio’n agos â darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith a Llywodraeth Cymru, sy’n ariannu’r swydd fel rhan o’i Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.
Nod yr Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yw helpu darparwyr dysgu seiliedig ar waith i ddatblygu darpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog mewn meysydd lle bu’n brin hyd yma.
Her gyntaf Mr Evans fydd paratoi cynllun sy’n cynnwys amcanion ynghylch:
· cynyddu nifer y dysgwyr sy’n manteisio ar ddarpariaeth Gymraeg neu ddwyieithog mewn sectorau penodol yn y rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith;
· annog pobl ifanc sy’n gadael ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog i barhau â’u haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg;
· rhannu arferion da o fewn y rhwydwaith;
· sicrhau bod mwy o ddarpariaeth Gymraeg gynaliadwy’n cael ei datblygu; a
· codi proffil yr iaith a datblygu ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn rhwydwaith darparwyr NTfW.
Bydd Mr Evans yn cydweithio’n agos â’r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru a Llywodraeth Cymru i gyflawni ei amcanion.
“Mae’n swydd gyffrous gan fy mod i’n frwd dros yr iaith Gymraeg ac yn awyddus i wella’r cyfleoedd sydd ar gael i bawb sy’n cymryd rhan mewn dysgu seiliedig ar waith ac i sicrhau bod cyflogwyr yn gwybod am fanteision dysgu dwyieithog,” meddai.
“Mae’r iaith Gymraeg yn rhan o’n treftadaeth a’n diwylliant ac rydyn ni am sicrhau lle mwy amlwg iddi yn y gweithle. Byddaf yn cydweithio’n agos â darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i ganfod a rhannu arferion da.
“Yn ogystal, byddaf yn cyfarfod â hyrwyddwyr dwyieithrwydd mewn colegau addysg bellach i ganfod arferion gorau a strategaethau sy’n addas ar gyfer y sector dysgu seiliedig ar waith.
“Rwy’n edrych ymlaen at gasglu sylwadau darparwyr hyfforddiant ym mhedwar rhanbarth Cymru am ffyrdd o wella’r ddarpariaeth ddwyieithog yn y gweithle. Mae manteision i ddarparwyr a chyflogwyr sy’n rhoi cyfle i bobl ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog.
“Ceir llawer mwy o bwyslais ar yr iaith Gymraeg mewn ysgolion erbyn hyn ac mae angen ehangu hynny i’r gweithle. Y nod yn y pen draw yw sicrhau bod y Gymraeg a’r Saesneg yn cael eu defnyddio’n gyfartal.”
Mae’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg wedi pennu targedau ar gyfer nifer y dysgwyr yr anelir at eu cael yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog erbyn 2015.
Dywedodd Cadeirydd NTfW, Arwyn Watkins wrth ymddeol o’r gadair: “Rydym yn eithriadol o falch ein bod wedi sicrhau buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i symud ymlaen â’r her o ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog ym mhob rhan o’r rhwydwaith dysgu seiliedig ar waith.
“Er mwyn cyrraedd y targedau a nodir yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru ar gyfer dysgu seiliedig ar waith, bydd angen rhannu’r arferion gorau trwy’r rhwydwaith cyfan. Mae’n bwysig ein bod yn deall sut orau i gynnwys sgiliau dwyieithog ym myd gwaith, lle mae ein dysgwyr ni’n datblygu.”