Mwy o Newyddion

RSS Icon
04 Mai 2012

Hywel Dda yn paratoi at Streic

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn cynllunio i gynnal gwasanaethau hanfodol yn dilyn datganiad United i gynnal streic ddydd Iau 10 Mai.

Mae penaethiaid iechyd wedi rhybuddio am amharu posibl ar wasanaethau gofal iechyd ond ar hyn o bryd nid yw’n bwriadu canslo unrhyw apwyntiadau i gleifion allanol.

Mae cynlluniau eisoes wedi’u sefydlu er mwyn lleihau amharu ar gleifion, heb gyfaddawdu ar ansawdd na diogelwch, er ei bod hi’n bosibl y bydd oedi cyn gweld gweithiwr gofal iechyd.

Dywedodd Janet Wilkinson, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol Bwrdd Iechyd Hywel Dda: “O ganlyniad i’r gweithredu diwydiannol arfaethedig, rydym wrthi’n paratoi sut y gallwn barhau i ddarparu cymaint o wasanaethau â phosibl a sicrhau diogelwch y cleifion dan ein gofal gyda llai o staff.

“Yn seiliedig ar y wybodaeth sydd gennym ar hyn o bryd, nid ydym yn bwriadu canslo apwyntiadau cleifion allanol ond mae’n bosibl y bydd oedi i gleifion o ganlyniad i brinder staff mewn meysydd gwasanaeth penodol (fel patholeg, fferylliaeth ac ystadau). Deallwn rwystredigaeth a phryderon ein cleifion a byddwn yn gwneud cymaint â phosibl ar y diwrnod er mwyn lleihau'r amharu hwn.”

Anogir cleifion i wirio eu cynlluniau teithio cyn cychwyn allan, gan ei bod hi’n bosibl y bydd ambiwlansiau a thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn cael eu heffeithio gan y streic.

Llun: Janet Wilkinson

 

Rhannu |