Mwy o Newyddion

RSS Icon
03 Mai 2012

Hwyl a ‘Sbri! - Sioe Ieuenctid yr Urdd!

Bydd llwyfan Galeri, Caernarfon yn fwrlwm o fywyd wrth i 130 o bobl ifanc ganu, dawnsio ac actio yn ffurf y ffenomenon Americannaidd ‘Glee’ yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Eryri ymhen ychydig wythnosau.   Mewn cynhyrchiad newydd sbon a sgript Gymraeg wreiddiol, mae Beth Angell, yr awdur, wedi tynnu ar ddylanwad y gyfres deledu boblogaidd Americannaidd i greu sioe gerdd anhygoel i’r Steddfod o’r enw ‘Sbri!’  Bydd noson agoriadol y sioe nos Wener, 1 o Fehefin am 8 o’r gloch a pherfformiadau pellach nos Sadwrn, 2 o Fehefin a nos Lun, 4 o Fehefin.  Mae’r tocynnau ar gael o Galeri, Caernarfon, 01286 685 222 am £15.

Cwmni’r Frân Wen, sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r sioe ieuenctid, ac mae’r cwmni’n brofiadol ym maes perfformio pobl ifanc.  Yn ôl Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Sbri! a Chyfarwyddwr Artistig Cwmni’r Frân Wen, mae cael gweithio gyda chymaint o griw yn bleser pur:

“Mae hi wedi bod yn chwa o awyr iach gweithio efo cymaint o bobl ifanc ymroddgar, ac mae ei brwdfrydedd nhw’n heintus,” meddai Iola.  “Cynrychiolaeth o bobl ifanc oed uwchradd a hŷn yw’r cast, ac maen nhw wedi eu dewis gan ysgolion uwchradd dalgylch Eryri a Cholegau Menai a Meirion Dwyfor.  Mae rhai yn teithio filltiroedd bob nos Iau i fynychu ymarferion, felly mae’n rhaid canu clod i’w rhieni a’u teuluoedd am eu cefnogaeth hefyd.” 

Dechreuodd yr ymarferion nôl ym mis Ionawr, a bellach mae’r ugain a mwy o brif gymeriadau wedi eu castio.  Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes yw lleoliad yr ymarferion, ac mae criw gweithgar o’r Pwyllgor Rhieni ac Athrawon wedi mynd i hwyl y sioe gan greu Caffi ‘Sbri!’ i’r perfformwyr ifanc brynu diod a bwyd yn ystod toriad o’u hymarferion. 

Mae stori ‘Sbri!’ wedi ei lleoli mewn ysgol uwchradd lle mae criw o ddisgyblion yn gwirioni ar ganu a dawnsio. Mae pob un o’r disgyblion wedi wynebu’r boen o gael eu hystyried yn ‘wahanol’ gan eu cyfoedion ac wedi cael manteisio ar ddihangfa y clwb ‘Sbri’ i ad-ennill eu hyder. 

Mae cymeriadau cryf o fewn y sioe sy’n arwain at ddigon o ddrama!  Ar ben y cyfan mae athrawon sydd â min ar eu tafodau ac sy’n poeni dim am siarad yn blaen!  Bydd y cymeriadau yn dilyn taith emosiynol ond llawn hiwmor wrth gyflwyno eu stori.  Noddir sioeau’r Eisteddfod gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth William Park Jones.

Un o’r cymeriadau yw, Trefor Cojar, gŵr hen ffasiwn sy’n byw dan fawd ei wraig, Arvonia Cojar a gymeriadir gan Megan Llŷn o Sarn, Pen Llŷn.  Gethin Wyn Griffiths, 18 oed, o Fethel ger Caernarfon sy’n chwarae rhan Trefor:

“Mi rydyn ni gyd fel cast yn dechrau cynhyrfu rŵan gan bod amser y perfformiadau’n prysur agosáu.  Mi rydyn ni’n cael hwyl garw yn ystod yr ymarferion,” eglura Gethin sy’n mynychu’r chweched dosbarth yn Ysgol Brynrefail.  “Mi rydw i wedi perfformio mewn sioe ‘Hairspray’ yn yr ysgol yn y gorffennol ac ym Mhasiant y Plant yn Steddfod 2005, ond mae’n wefr cael chwarae un o’r prif rannau yn y sioe yma yn enwedig gan bod ‘Trefor’ yn gymeriad doniol - mae mor gerdd dantol, werinol ac yn eisteddfotwr brwd, mae’n dod â gwên i’m hwyneb!   Dwi’n edrych ymlaen at berfformiadau wythnos yr Eisteddfod er mwyn cael clywed y caneuon yn eu cyfanrwydd a chael gweld yr holl waith caled yn dod yn fyw!”

“Mi fuodd hi’n hynod o anodd castio’r prif gymeriadau, oherwydd bod cymaint o dalent yn yr ardal” meddai Iola Ynyr.  “Mae hi’n beth mor braf gweld criw o’r oed yma yn mwynhau cymaint, yn ffurfio cyfeillgarwch ac yn cymdeithasu â’i gilydd.  Ar ben hynny, maen nhw’n datblygu sgiliau theatr, sgiliau lleisiol, sgiliau symud, ac mae’r safon yn codi o wythnos i wythnos.  Er bod cymaint o griw, a bod gwaith trefnu’r sesiynau ac ymarferion, mae gweld yr ymarferion yn llifo’n rhwydd ac yn datblygu yn dystiolaeth o waith yr holl dîm, y criw bugeiliol a’r criw creadigol.  Mae’n waith tîm go iawn!”

Mae’r cynhyrchiad hefyd yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon poblogaidd Cymraeg wedi eu haddasu i arddulliau cyfoes gwahanol gan y Cyfarwyddwr Cerddorol, Owain Gethin Davies.  Yn eu mysg y mae ‘Tŷ ar y Mynydd’ Maharishi a ‘Y Brawd Houdini’ gan Meic Stevens.

“Ond dydyn ni ddim am ddatgelu gormod!” eglura Iola Ynyr, “mae’n rhaid i ni gadw rhywfaint o’r cyffro, er mwyn sicrhau chwilfrydeddd i’r gynulleidfa wrth ddod i mewn i’r theatr a mwynhau’r sioe!  Mae hynny’n rhan o’r holl brofiad.”

Mae tocynnau i’r Sioe yn gwerthu’n gyflym.  Cysylltwch â Galeri, Caernarfon am docynnau, 01286 685 222.  Mae prîs tocyn yn £15.  Bydd perfformiadau nos yn dechrau am 8 o’r gloch: nos Wener, 1 o Fehefin; nos Sadwrn 2 o Fehefin a nos Lun 4 o Fehefin.   Bydd un perfformiad prynhawn Sadwrn 2 o Fehefin am 3 o’r gloch hefyd.

 

 

Rhannu |