Mwy o Newyddion
Cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012
Fe fydd tref dawel Aberhonddu yn fwrlwm o leisiau nos Iau nesaf wrth i bedwar o feirdd arobryn gamu i’r llwyfan. Bydd Bardd Plant Cymru, Eurig Salisbury, cyn Fardd Plant Cymru a Meuryn Talwrn y Beirdd, Ceri Wyn Jones, Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke a’r Bardd Llawryfog, Carol Ann Duffy, yn Theatr Brycheiniog i glywed pa lyfrau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2012.
Mae’r beirniaid wedi bod yn darllen yn ddiwyd ers blwyddyn ac mae hi bellach yn amser i ni gael clywed pa naw awdur Cymraeg a pha naw awdur Saesneg sydd wedi cyrraedd y Rhestr Fer eleni. Gyda glasiad o win a chanapé yn Oriel y Theatr am 7.00 pm, cewch gyfle i daro golwg o amgylch yr ystafell a cheisio dyfalu pwy sydd yn y ras i ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012.
Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae eleni yn flwyddyn gyffrous iawn i’r Wobr: mae’r Rhestr Fer ar ffurf categorïau am y tro cyntaf, mae Gwobr Roland Mathias yn ymuno â Gwobr Llyfr y Flwyddyn, ac rydym hefyd yn lansio gwefan newydd sbon ar gyfer y Wobr. Felly wedi i chi glywed pa lyfrau sydd ar y rhestr ewch i’ch siop lyfrau leol, i’ch llyfrgell leol, a dechrau ar y darllen.”
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru.
I archebu tocyn ar gyfer y digwyddiad cysylltwch â Theatr Brycheiniog.
(Gweler yr holl fanyliwn cyswllt isod)
Fe fydd www.llyfryflwyddyn.org / www.walesbookoftheyear.org yn fyw nos Iau 10 Mai.
Dyddiadau Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012
Cyhoeddi’r Rhestr Fer
Nos Iau 10 Mai, 7.00 pm, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, LD3 7EW
Tocynnau: £10.00 / £8.00
I brynu tocyn cysylltwch â Theatr Brycheiniog: 01874 611622 / www.theatrbrycheiniog.co.uk
Y Seremoni Wobrwyo
Nos Iau 12 Gorffennaf, 7.00 pm, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Caerdydd, CF10 3ER
Tocynnau: £10.00 / £8.00
I brynu tocyn cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: 029 2047 2266 / post@llenyddiaethcymru.org
Llun: Lleucu Siencyn