Mwy o Newyddion
Marciau uchel i’r Ardd
Mae darllenwyr cylchgrawn Which? wedi rhoi marciau uchel i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Roedd 4,000 o danysgrifwyr cylchgrawn Cymdeithas y Defnyddwyr wedi cymryd rhan mewn arolwg ac wedi dyfarnu 79% i’r atyniad hwn yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r ffigwr hwn yn seiliedig ar foddhad cyffredinol a’r tebygolrwydd y byddent yn ei hargymell. Dyma sgôr gyfartal â Phrosiect Eden yng Nghernyw a marc yn uwch na gerddi arbennig eraill megis Chatsworth, Palas Blenheim a Hampton Court.
Yn gartref i’r tŷ gwydr sydd â’r rhychwant sengl mwyaf yn y byd a mwy na 8,000 o amrywiaethau o wahanol blanhigion, roedd yr Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi derbyn marciau llawn am ei ‘gwerth am arian’ a mynediad i bobl anabl, a hefyd derbyniodd glod am ansawdd ei bwyd.
Dywedodd David Hardy, Pennaeth Marchnata: “Dyma acolâd gwych i’r Ardd. Rydyn ni wedi cyflawni llawer mewn 12 mlynedd. Mae derbyn marciau mor uchel am ansawdd ein bwyd, ein gwerth am arian a’n mynediad i bobl anabl yn dystiolaeth o’r gwaith caled sy’n digwydd yma.”
Yr Ardd oedd ar frig y rhestr oedd Rosemoor RHS, partner i’r atyniad Cymreig lle mae aelodau yn cael mynediad am ddim i’r ddwy ardd.
Os hoffech fwy o wybodaeth am Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn ogystal â’r newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf gan gynnwys ein gŵyl ‘Meddyginiaethau ym Mai’ bresennol, rhowch glic ar www.gardenofwales.org.uk, e-bostiwch info@gardenofwales.org.uk neu ffoniwch 01558 667149.