Mwy o Newyddion
Y Llys Apêl yn gwrthod cais yn erbyn cynlluniau Parc y Strade
Mae'r Llys Apêl wedi gwrthod cais am Adolygiad Barnwrol i fater codi tai ar safle Parc y Strade.
Bellach, gall cwmni Taylor Wimpey fwrw ymlaen â'i gynlluniau i godi 355 o dai ar y safle, a darparu swyddi adeiladu a thai y mae angen mawr amdanynt.
Roedd Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo'r cynlluniau beth amser yn ôl, wedi i ymgyrchwyr golli eu hapêl i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn y mater.
Roedd y grŵp wedi parhau â'r frwydr wedyn ac wedi gwneud cais am Adolygiad Barnwrol, sydd wedi achosi oedi hir o ran y cynllun.
Dywedodd Mark James, y Prif Weithredwr: "Mae'r Cyngor yn falch o weld bod y Llys Apêl wedi cadarnhau bod y broses roeddem wedi'i dilyn yn gwbl gywir a phriodol.
"Mae hyn wedi gwastraffu amser ac arian yn ddiangen, a byddwn yn ceisio adennill ein costau ar ran y bobl sy'n talu treth y cyngor yn Sir Gaerfyrddin. Hefyd, mae hyn wedi achosi oedi o ran yr arian roedd Taylor Wimpey wedi cytuno i'w dalu i'r Cyngor Sir.
"Rydyn ni'n gobeithio y gall Taylor Wimpey ddechrau gweithio ar y safle cyn gynted â phosibl er mwyn codi tai, yn cynnwys tai fforddiadwy, y mae eu hangen yn fawr ar bobl Llanelli.
"Mae hon yn enghraifft anffodus arall o grŵp bychan o bobl yn Llanelli yn ceisio atal unrhyw ddatblygiadau, gan gynnwys yr ysgol newydd yn ardal y Ffwrnais a datblygu tir diffaith fel safle Grillo.
"Mae hyn yn atal buddsoddiad a swyddi adeiladu y mae angen mawr amdanynt yn Llanelli, ac yn amddifadu plant Ysgol Ffwrnes o'r cyfle i gael cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf."