Mwy o Newyddion
Rhagor o ddewisiadau anodd i'r sector gyhoeddus
Mae sefydliadau’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu rhagor o benderfyniadau ariannol anodd, yn ôl adroddiad newydd gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Roedd ymchwiliad y Pwyllgor, sef ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’, yn cydnabod bod llawer o gyrff yn y sector cyhoeddus wedi gwneud llawer i ymdopi, wrth wynebu toriadau ariannol na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.
Fodd bynnag, gwelodd y Pwyllgor hefyd fod angen cydweithredu buan rhwng sefydliadau’r sector cyhoeddus, er mwyn ychwanegu at yr arbedion cost a gyflawnir drwy’r wlad ar hyn o bryd.
Nododd y Pwyllgor nifer o enghreifftiau cadarnhaol o sefydliadau’n rhannu adnoddau neu’n gweithio mewn partneriaeth i wneud defnydd effeithlon o adnoddau, ond nododd fod angen i arferion o’r fath ddod yn ffordd arferol o weithio ar draws Cymru, a hynny er mwyn gwneud y defnydd gorau o bob adnodd a dileu gwastraff.
Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Credwn fod y dasg a osodwyd i’r sector cyhoeddus yn un enfawr ond nid yn amhosibl.”
“Mae’r hinsawdd economaidd anodd, mewn rhai mannau, wedi annog cydweithio ac arloesedd o ran darparu gwasanaethau i bobl Cymru, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gynorthwyo i rannu’r arfer da hwn.
“Nid oes dim dwywaith, fodd bynnag, nad yw hynny’n ddigon ar hyn o bryd, a bod rhagor o benderfyniadau anodd i’w gwneud gan bob corff yn y sector cyhoeddus, a bod yn rhaid gwneud y penderfyniadau hynny’n gyflym er mwyn lleihau effaith y toriadau.”
Mae’r rhestr a ganlyn yn ddetholiad o’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn ei adroddiad:
· Bod Llywodraeth Cymru’n cymryd camau i fonitro’r cynnydd a wnaed ganddi i ddwysáu rheolaeth ariannol drwy’r gwasanaethau cyhoeddus, a sicrhau bod y camau ar gael i’r cyhoedd eu gweld. Disgwyliwn y bydd y camau’n cynnwys rhannu arferion da o ran rheolaeth ariannol drwy’r sector cyhoeddus.
· Bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r dulliau presennol o ran rhannu arferion da, fel hyrwyddo’r defnydd o’r Gyfnewidfa Arfer Da ar wefan Swyddfa Archwilio Cymru, er mwyn dod â nodweddion arfer da o bob maes yn y sector cyhoeddus ynghyd yn systemataidd, a sicrhau y gellir trosglwyddo’r arferion da hynny yn effeithiol i’r gwasanaethau ar lefel leol.
· Bod Llywodraeth Cymru’n monitro’n ofalus berfformiad ei model ar gyfer cydweithio rhanbarthol. Rydym o’r farn fod yn rhaid i unrhyw fodel sicrhau bod cynghorwyr a dinasyddion yn ganolog mewn trafodaethau ar y modd y caiff gwasanaethau lleol eu darparu, a bod dulliau llywodraethu ac atebolrwydd priodol ar waith.
· Bod y Swyddog Cyfrifo yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni, o fewn 12 mis, am y cynnydd a wnaed i gyflawni argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol a’n hargymhellion ni.
Llun: Darren Millar AC