Mwy o Newyddion
Lansio cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Roedd Cyfarwyddwr Artistig Ysgol Glanaethwy, y Cymrawd a'r Cynfyfyriwr Cefin Roberts a’r cyflwynydd teledu a chynfyfyriwr Rhydian Bowen Phillips ymhlith y gwaddedigion a ddaeth ynghyd i ddathlu lansio cangen y Brifysgol o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddydd Mercher.
Cafwyd anerchiadau pwrpasol gan y gŵyr gwadd yn pwysleisio treftadaeth Gymraeg a Chymreig y Brifysgol. Ategwyd hyn yng ngeiriau Dr Sian Wyn Siencyn, Cadeirydd Cangen y Brifysgol, Gwilym Dyfri Jones, Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant a Phrofost Campws Caerfyrddin a Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg. Cyfansoddodd y Prifardd, Dr Mererid Hopwood o’r Gyfadran Gysylltiol gywydd arbennig ar gyfer yr achlysur a’i rhannu gyda’r gynulleidfa yn ei ffordd ddihafal. I gloi, cafwyd dataniad swynol gan rai o fyfyrwyr yr Ysgol Celfyddydau Perfformio.
Sefydlwyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cynllunio, cynnal a datblygu addysg ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ym mhrifysgolion Cymru drwy weithgaredd y canghennau.
Fel un o brif ddarparwyr addysg uwch cyfrwng Cymraeg, mae’r Drindod Dewi Sant yn chwarae rôl ganolog o fewn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac yn cydweithio’n agos â’r Coleg er mwyn cynnal, datblygu ac ehangu’r ddarpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
Mae’r Brifysgol ar fin penodi 5 aelod o staff newydd i swyddi o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Mae’r swyddi ym meysydd Plentyndod Cynnar, Rheolaeth Busnes, Cerddoriaeth a Chelf a Dylunio wedi eu cyllido am bum mlynedd gan y Coleg ac mae’r Brifysgol yn ymrwymo i’r swyddi hyn fel rhan o’i darpariaeth graidd.
Meddai Gwilym Dyfri Jones, Deon y Gyfadran Addysg a Hyfforddiant a Phrofost campws Caerfyrddin ac sydd â chyfrifoldeb dros addysg cyfrwng Cymraeg ar draws y Brifysgol:
“Rydym yn sefydliad naturiol ddwyieithog sydd â thraddodiad anrhydeddus o ddarparu rhaglenni gradd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o’n myfyrwyr yn dewis astudio o leiaf ran o’u cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg a gyda’r gangen a’r penodiadau newydd yma, y gobaith yw y gwelir nifer y cofrestriadau cyfrwng Cymraeg yn cynyddu eto yn y dyfodol."