Mwy o Newyddion
Arlwy yr Ŵyl! yn ffynnu
Dros gyfnod o fis eleni eto bydd Gŵyl!, sef gŵyl gerddorol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn darparu gwledd o gerddoriaeth yng Ngorllewin Cymru.
Bydd yr ŵyl yn dechrau ar 2 Mehefin ac yn para drwy gydol y mis. Cynhelir digwyddiadau yn Nhŷ Newton, Parc a Chastell Dinefwr yn ogystal â lleoliadau yn ac o gwmpas y campws yng Nghaerfyrddin a Llambed.
Bydd Llŷr Williams, a ddisgrifir fel un o’r [pianyddion] mwyaf yn y cyfnod modern yn perfformio yng Nghapel y Brifysgol ar Gampws Caerfyrddin ar 16 Mehefin. Bydd y cerddor eithriadol ddawnus yn perfformio rhaglen o weithiau gan Beethoven, Mendelssohn, Verdi, Saint-Saens a Wagner.
Mae uchafbwyntiau eraill o’r rhaglen yn cynnwys, perfformiad Ysgol y Celfyddydau Perfformio o The Servants’ Pirates yn seiliedig ar ‘The Pirates of Penzance ‘ gan Gilbert a Sullivan’ yn Nhŷ Newton, Parc a Chastell Dinefwr rhwng y 4 - 7 Mehefin.
Bydd y Tri Tenor yn perfformio ar 17 Mehefin yn Neuadd y Celfyddydau, ar gampws Llambed. Tri Tenor Cymru, sydd, serch hynny, â lleisiau amrywiol iawn, ac yn cydweddu â’i gilydd yn berffaith. Mae Alun Rhys-Jenkins, Aled Hall a Rhys Meirion, ill tri yn gantorion opera proffesiynol, yn cyflwyno rhaglen o ganeuon, emynau ac ariâu operatig yn eu harddull ddihafal eu hun.
I gloi, daw’r ŵyl i ben ar nodyn uchel gyda Gwobr Llais Ryngwladol Stuart Burrows ar 24 Mehefin. Mae’r wobr ryngwladol a sefydlwyd er er clod i’r tenor byd-enwog, ac yn gyfle gwych i glywed lleisiau ifanc y dyfodol.
Meddai trefnydd yr ŵyl, Eilir Griffiths: “Ar ôl Gŵyl! y llynedd, pan welsom Bryn Terfel yn cyfareddu’r gynulleidfa yn Aberglasne, roedd eleni yn mynd i fod yn sialens ,” meddai Mr Griffiths.
“Ond rydym yn credu bod y rhaglen o ddigwyddiadau eleni yn gymysgedd gwych a fydd yn apelio at y cyhoedd. Mae gennym yr elfen leol, gydag artistiaid megis Band Chwyth Caerfyrddin, Cerddorfa Siambr Llambed a Chôr Caerfyrddin. Mae gennym sêr y dyfodol yn cystadlu am wobr Stuart Burrows yn ogystal â pherfformiadau gan ein myfyrwyr o Academi Llais Ryngwladol Cymru ac Ysgol y Celfyddydau Perfformio.
“Ac yn goron ar y cyfan, artistiaid uchel eu parch fel Llyr Williams, Y Tri Tenor a Phedwarawd Mavron. Fy nghyngor i fyddai i archebu cyn gynted ag y bod modd, gan y bydd y galw am docynnau yn uchel!”
Gyda chymaint o arddulliau gwahanol o gerddoriaeth yn ogystal â theatr, celf a llenyddiaeth, mae pob rheswm dros fod yn rhan o Gŵyl! eleni.