Mwy o Newyddion

RSS Icon
27 Ebrill 2012

Dilyn Jodie

Efallai nad ydych chi wedi clywed am Jodie Marie eto, ond mae’r gantores ifanc o Sir Benfro yn creu cynnwrf yn y byd cerddoriaeth.

Mae hi eisoes wedi derbyn adolygiadau disglair gan gylchgronau a phapurau cenedlaethol fel Mojo, Daily Star, The Guardian, Independent a The Mail on Sunday.

Yn dilyn gig arbennig yn yr Eglwys Norwyeg, Bae Caerdydd yn ddiweddar roedd adolygiad ffafriol iawn yn y Western Mail yn canmol ei llais a chrefft ei chaneuon i’r cymylau.

Mewn rhaglen ddogfen ar S4C nos Fawrth, 8 Mai, byddwn yn dilyn Jodie yn ystod tri mis pwysicaf ei gyrfa hyd yn hyn, wrth iddi ryddhau ei halbwm cyntaf - Mountain Echo.

Mae stori Jodie Marie yn un o lwc a siawns anhygoel. Mae’r cyfan yn dechrau mewn B&B yn Arberth ble roedd un o’r gwesteion yn son am ei fab sy’n un o berchnogion cwmni recordiau Transgressive yn Llundain.

Rhoddodd y lletywraig CD o ferch leol i’r gŵr a dyna sut y daeth llais Jodie Marie i sylw’r cwmni recordiau, sydd hefyd yn gyfrifol am y bandiau enwog Noisettes, Foals, Graham Coxon, Johnny Flynn a Two Door Cinema Club.

Dim ond 16 oed oedd Jodie ar y pryd, a hithau bellach yn 20 mlwydd oed, mae’r pedair blynedd o weithio gyda’r cwmni wedi bod o fudd mawr iddi.

“Maen siŵr am fy mod i mor ifanc, doedd fy sgiliau ysgrifennu ddim wedi cael amser i aeddfedu. Ar wahân i’r darnau ar gyfer TGAU, doeddwn i erioed wedi perfformio fy nghaneuon yn gyhoeddus. Byddwn i’n eu hysgrifennu ac yn eu cuddio nhw yn fy ystafell,” meddai Jodie, gan esbonio’r math o gerddoriaeth mae hi’n ei gyfansoddi.

“Roeddwn i eisiau ysgrifennu albwm y gall pobl uniaethu ag e. Dwi wastad wedi hoffi cerddoriaeth y gallwn i droi ati pan fy mod i’n teimlo’n isel ac rwy’n siŵr bod pawb yr un peth. Felly roeddwn i eisiau creu albwm oedd yn cyffwrdd â phob agwedd o emosiwn sydd mor agos i’r gwir a phosib.”

Er y cynnwrf a’r antur o ryddhau record, mae hi hefyd yn gyfnod o newid mawr i’r ferch ifanc, wrth iddi symud i fyw o gartref ei phlentyndod i Lundain.

Er iddi dreulio llawer o’r pedair blynedd diwethaf yn teithio yn ôl ag ymlaen rhwng Llundain a gorllewin Cymru, mae symud i’r ddinas yn barhaol yn rhwyg anodd iddi. Yn y rhaglen hon cawn weld taith Cymraes dalentog o’r gorllewin gwyllt i sylw’r byd.

Jodie Marie

Nos Fawrth 8 Mai 8.25pm, S4C

Hefyd, nos Wener 11 Mai 10.00pm, S4C

Isdeitlau Saesneg

Gwefan: s4c.co.uk

Ar alw: s4c.co.uk/clic

Cynhyrchiad Boomerang ar gyfer S4C

 

 

Rhannu |