Mwy o Newyddion
Cyfle i weld casgliad o wrthrychau chwaraeon Cymreig
Mae arddangosfa newydd wedi agor yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor – bydd cyfle i weld arddangosfa ‘Casglu ar gyfer y dyfodol’ yno tan 21 Gorffennaf 2012.
Mae’r arddangosfa yn dod ag amrywiaeth o wrthrychau chwaraeon sydd wedi cael eu cadw yn amgueddfeydd Cymru dros y 60 mlynedd diwethaf at ei gilydd. Mae’r eitemau yn amrywio o ddillad a gafodd eu gwisgo gan aelod o dîm Gemau’r Gymanwlad yn 1958 yng Nghaerdydd, i swfenîr o dwrnamaint Cwpan Ryder yng Nghasnewydd yn 2010 ac eitemau rygbi a phêl-droed cyfoes.
Wrth fynd ati i gasglu’r eitemau daeth i’r amlwg bod nifer o chwaraeon un ai ddim yn cael eu cynrychioli yng nghasgliadau amgueddfeydd Cymru neu ar goll yn gyfan gwbl, ond mae rhai amgueddfeydd bellach wedi dechrau casglu eitemau o ddigwyddiadau amlwg.
Gofynnir i ymwelwyr sy’n dod i weld yr arddangosfa am eu sylwadau ynglŷn â pha eitemau maent yn meddwl sy’n adlewyrchu hanes orau a pha eitemau dylai amgueddfeydd fod yn eu casglu - nid yn unig chwaraeon. Y bwriad ydi sicrhau bod arddangosfeydd yn y dyfodol yn berthnasol ac yn gynrychiadol.
Mae’r arddangosfa yn Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor tan 21 Gorffennaf ac yna bydd yn mynd ar daith o amgylch amgueddfeydd eraill Cymru trwy gydol 2012 a 2013.
Mae Amgueddfa ac Oriel Gwynedd ar agor i’r cyhoedd: dydd Mawrth - Gwener 12:30 - 4.30, dydd Sadwrn 10:30 - 4:30, ac mae mynediad am ddim. Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r arddangosfa, cysylltwch ag Amgueddfa ac Oriel Gwynedd, Bangor 01248 353368. amgueddfagwynedd@gwynedd.gov.uk neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/amgueddfeydd