Mwy o Newyddion
Hwb o £60,000 yn y frwydr yn erbyn canser y brostad
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb ariannol o £60,000 i ariannu prosiect ymchwil arloesol gyda'r nod o wella sut mae canser y brostad, y canser mwyaf cyffredin mewn dynion, yn cael ei ddarganfod.
Bydd y grant hael hwn, a roddir gan y cwmni gweithgynhyrchu nwyddau o Ferthyr Tudful, Hoover, ac a ddyfarnwyd gan Elusen Canser y Brostad, yn helpu i wella cywirdeb diagnosis canser y brostad.
Fe wnaeth yr Athro Reyer Zwiggelaar, y Prif Ymchwilydd ar y prosiect yn yr Adran Gyfrifiadureg yn y Brifysgol a'i fyfyriwr PhD, Jonathan Roscoe, gyfarfod gyda David Lunt, Cadeirydd Sefydliad Hoover, a chynrychiolwyr o Elusen Canser y Brostad, er mwyn cyflwyno’r arian hanfodol iddo’n ffurfiol.
Cynhaliwyd y cyfarfod yn y ganolfan ymchwil ar Gampws Penglais i drafod sut y bydd y gwaith ymchwil hwn yw helpu meddygon i weld yn gliriach maint a lleoliad y canser ac yn ei dro, eu galluogi i wneud penderfyniadau gwell am driniaeth.
Dywedodd yr Athro Zwiggelaar; "Rydym yn falch fod Elusen Canser y Brostad, gyda chefnogaeth Sefydliad Hoover, yn cefnogi'r gwaith ymchwil hwn i helpu i wella cywirdeb diagnosis canser y brostad ar gyfer y cannoedd o filoedd o ddynion sy’n cael eu heffeithio gan y clefyd.
"Trwy ariannu'r prosiect hwn maent yn ein galluogi i archwilio'r dulliau modelu cyfrifiadurol mwyaf diweddar tra’n ein cynorthwyo i feithrin gwyddonwyr canser y brostad y dyfodol ar yr un pryd."
Dywedodd David Lunt; "Yn y Deyrnas Gyfunol, mae 37,000 o ddynion yn derbyn diagnosis o ganser y brostad bob blwyddyn. Fodd bynnag, drwy ein gwaith gydag Elusen Canser y Brostad rydym yn gwybod bod angen gwella’r dulliau presennol o ddarganfod y salwch ar fyrder, os yr ydym am weld mwy o ddynion yn gwella o’r clefyd.
"Trwy ariannu'r prosiect arloesol yma mewn sefydliad ymchwil uchel ei barch, rydym yn gobeithio chwarae ein rhan i wella triniaeth canser y brostad am flynyddoedd i ddod. Ein harwyddair yw cenhedlaeth y dyfodol, ac rydym yn falch o fod yn buddsoddi yn nyfodol iechyd dynion."
Bydd yr arian yn talu am ysgoloriaeth PhD tair blynedd yn y Brifysgol, a fydd yn rhedeg tan yr Hydref 2014. Mae'r prosiect ymchwil hwn yw ymchwilio i'r syniad gwreiddiol o gyfuno canlyniadau cyseiniant magnetig (MRI) ac uwchsain (ultrasound) er mwyn darparu map cychwynnol manylach sydd yn dangos ble’n union mae’r tiwmorau a gwell syniad o’u maint.
Dywedodd Dr Kate Holmes, Pennaeth Rheoli Ymchwil Elusen Canser y Brostad a oedd hefyd yn bresennol yn y cyfarfod: "Un o'r heriau mwyaf mewn ymchwil canser y brostad yw’r gallu i wneud diagnosis cywir o’r clefyd.
"Credwn y bydd y prosiect arloesol yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi'r atebion sydd eu hangen ar feddygon er mwyn gwneud diagnosis mwy cywir a thrin tiwmorau i ddarparu budd gwirioneddol i ddynion yng nghamau cynnar eu clefyd. Rydym yn diolch i Sefydliad Hoover am weithio gyda ni i gefnogi’r astudiaeth hon ac maent yn disgwyl yn eiddgar am ei ganlyniadau."
Cafodd y rhodd ei chyflwyno i’r Athro Zwiggelaar ar ddydd Llun 23 Ebrill 2012.
Llun: (O’r chwith i’r dde) Kate Holmes o Elusen Canser y Prostad (ECP), Jonathan Roscoe, David Lunt, yr Athro Reyer Zwiggelaar a Leanne Fenwick, hefyd o ECP