Mwy o Newyddion
55,160 rheswm dros newid
Mae’r Gymdeithas Newid Etholiadol yn amcan fod 55,160 o drigolion Powys, Sir Benfro a Cheredigion wedi colli’r cyfle i bleidleisio yn etholiadau lleol y flwyddyn hon (dydd Iau 3ydd o Fai), gan i 38 o gynghorwyr cael eu hethol yn ddi-wrthynebiad yn barod.
Mae dros hanner awdurdodau lleol Cymru yn dychwelyd cynghorwyr heb gystadleuaeth. Powys yw’r gwaethaf yng Nghymru, gyda 32,132 o drigolion heb gyfle i bleidleisio, gyda Sir Benfro y drydedd waethaf. Dros Gymru oll, mi fydd 95 o gynghorwyr yn cael eu hethol heb wrthwynebiad, gan olygu na fydd trigolion lleol yn gallu lleisio’u barn ar ddyfodol gwasanaethau allweddol a lefelau trethi cyngor.
Yn ddiweddar, roedd rhannau o’r Alban gyda ‘diffeithwch democrataidd’ tebyg. Ond yn 2007, symudodd Senedd yr Alban etholiadau lleol i system o gynrychiolaeth gyfrannol, gan ddefnyddio system a elwir yn Bleidlais Drosgwyddadwy Sengl (‘Single Transferable Vote’ neu STV). O dan STV, mae pleidleiswyr yr Alban yn gallu nodi nifer o ddewisiadau ar pwy y maent eisiau i’w cynrychioli yn lleol. Mae’r newid wedi adfywio democratiaeth lleol yr Alban a nid yw yr un o seddi cyngor yr Alban y flwyddyn heb ei gystadlu.
Dywedodd Stephen Brooks, Cyfarwyddwr Cymdeithas Newid Etholiadol Cymru: “Mae seddi heb eu cystadlu yn symptom o ddiffyg cystadleuaeth go iawn yn ein ddemocratiaeth lleol. Gyda dros 55,000 o bobl Canol a Gorllewin Cymru heb gyfle i bleidleisio yn yr etholiad, mae’n glir fod gennym grisis sy’n dwyshau yn ein democratiaeth leol.
"Mi fydd 140,000 o drigolion wedi eu hamddifadu o unryw ddewis dros pwy sy’n penderfynnu ar eu rhan ar nifer o bynciau pwysig fel treth cyngor, gwasanaethau cymdeithasol, ac ysgolion.
"Yn 2004, daeth comisiwn annibynol, wedi’i sefydlu gan llywodraeth Llafur/Democratiaid Rhyddfrydol ar y pryd, i’r casgliad y dylai Cymru symud i system STV fel yn yr Alban. Mae Llywodraeth Cymru angen adfywio ein democratiaeth lleol, a mabwysiadu system o bleidleisio teg yr Alban. Yn yr Alban, mae pobl yn cael mwy o ddewis a mwy o lais yn y penderfyniadau sy’n eu heffeithio nhw. Mae hi ond yn iawn fod trethdalwyr cyngor yng Nghymru yn cael yr un hawl.”