Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ebrill 2012

Tâl Rhanbarthol – teimladau cryf ymhlith athrawon

Tâl rhanbarthol fydd un o’r pynciau llosg yn ystod Cynhadledd Flynyddol undeb addysg UCAC yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Mae Llywodraeth San Steffan yn bygwth diwygio’r drefn bresennol ar gyfer pennu cyflog ac amodau gwaith athrawon Cymru a Lloegr i sicrhau cyflogau sy’n “fwy ymatebol i gyfraddau tâl lleol”.

Meddai Elaine Edwards, Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC: “Mae’r Llywodraeth am weld system fyddai’n rhoi tâl is i athrawon mewn ardaloedd difreintiedig am wneud yr un gwaith ag athrawon mewn ardaloedd mwy ffyniannus.

“Dyw hynny ddim yn deg i athrawon unigol nac i’r proffesiwn ac mae’n debygol o achosi prinder athrawon mewn ardaloedd â chyflogau is. Bydd unrhyw newid yn arwain naill ai at drafodaethau hir a ffyrnig ar hyd a lled y wlad ynglŷn â chyflogau lleol neu at benderfyniad gan Lywodraeth San Steffan bod athrawon Cymru’n haeddu llai o gyflog na’r mwyafrif o athrawon yn Lloegr.”

“Dyw aelodau UCAC ddim yn gweld unrhyw synnwyr mewn system o’r fath a bydd cryfder y teimladau i’w clywed yn ystod trafodaethau’r Gynhadledd.”

 

Rhannu |