Mwy o Newyddion
Profiad newydd a gwell i ymwelwyr yn y Senedd
Cafodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ei ddylunio ar sail tryloywder a mynediad i’r cyhoedd.
Y nod yw annog pobl i ddod i’r adeilad i gael profiad uniongyrchol o waith Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth greu deddfau i Gymru ac wrth ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Bellach, mae profiad yr ymwelydd wedi gwella wrth i gaffi a siop y Senedd ddod gael eu huno i greu un cyfleuster gwell.
Bydd y cyfleuster newydd yn galluogi i gynnyrch bwyd o Gymru gael ei hyrwyddo a’I werthu; nid oedd hyn yn bosibl o’r blaen.
Dywedodd Rosemary Butler AC, y Llywydd, wrth agor y cyfleuster newydd, “Nid yw democratiaeth Cymru yn ymwneud â gwaith y 60 Aelod yn y Siambr ac yn yr ystafelloedd Pwyllgora yn unig,”.
“Rhaid i ddemocratiaeth Cymru ymwneud ag ymgysylltu â’r cyhoedd yng Nghymru er mwyn canfod pa ddeddfau rydych chi eisiau i ni eu llunio a sut dylem ni ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
“Mae cael adeilad y mae pobl eisiau ymweld ag ef yn ganolog i’r broses hon. Rhaid i bobl deimlo eu bod yn gallu dod i’r adeilad a thrafod y prif faterion sy’n wynebu Cymru, neu ddod i ddysgu am y broses yn unig hyd yn oed.
“Dyna pam rydym ni wedi gwella’r cyfleusterau arlwyo yn y Senedd, er mwyn gwneud unrhyw ymweliad â’r Senedd yn brofiad mwy cyfforddus a phleserus.”
“Bydd y man newydd yn rhoi mwy o allu i ni hyrwyddo nwyddau o Gymru hefyd, yn enwedig cynnyrch bwyd o Gymru.”
Ychwanegodd Sandy Mewies AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros wasanaethau Cyswllt Cyntaf: “Mae pobl o Gymru gyfan yn ymweld â’r Cynulliad i gael gweld y gwaith rydym ni’n ei wneud yma.
“Felly, mae angen i ni ddarparu gwasanaeth sy’n gwneud y profiad hwnnw’n gofiadwy. Mae’n adeilad bendigedig ac rwy’n siŵr y bydd y cyfleuster newydd hwn yn gwella profiad ymwelwyr ymhellach.”
Nododd cynigion cyllideb y Cynulliad ar gyfer 2011/12 angen i ystyried cyfleoedd i leihau costau a gwneud y mwyaf o effeithlonrwydd drwy gael gwared ar ddyblygu gwasanaethau ac adolygu manylion gwasanaethau ar gontract er mwyn darparu’r un gwasanaeth yn fwy effeithlon.
Yn rhan o’r broses hon, gwelodd y Cynulliad y potensial i roi siop y Cynulliad a chaffe’r cyhoedd yn yr un man.
Staff Comisiwn y Cynulliad a oedd yn rheoli siop y Cynulliad ac yn gweithio yno, tra oedd caffi’r cyhoedd yn cael ei reoli a’i redeg yn rhan o’r contract arlwyo.
Bydd cyfuno’r ddau gyfleuster yn rhoi profiad gwell i’r rhai sy’n ymweld â’r Senedd a bydd yn cael gwared ar yr angen i staff y Cynulliad weithio yn y siop, gan eu galluogi i weithio ym maes gwasanaethau ymwelwyr a digwyddiadau.
O ganlyniad roedd llai o angen i recriwtio staff ychwanegol, gydag arbedion o £51,693 y flwyddyn yng nghostau staffio.