Mwy o Newyddion

RSS Icon
26 Ebrill 2012

Sgwrs gyhoeddus gyntaf Pontio

Daeth athrawon, rhieni, academyddion a chynrychiolwyr llywodraeth leol at ei gilydd yr wythnos yma i ddarganfod mwy am y ffordd y gall technoleg newid y ffordd rydym yn addysgu, a dysgu, darllen. 

Fe wnaeth yr Athro Janet Twyman, sy’n arbenigwr rhyngwladol ym maes dylunio offer addysgol technolegol a chyfarwyddo darllen, gyflwyno darlith ymchwil gyhoeddus gyntaf Pontio ym Mhrifysgol Bangor. 

Mae’r Athro Twyman yn un o ddatblygwyr y rhaglenni darllen Headsprout ar y rhyngrwyd – rhaglenni a fwriedir i ddysgu plant sut i ddarllen a deall Saesneg. 

Roedd yr Athro Twyman yn ymweld â Bangor i weld ymchwil gydweithredol yn defnyddio  Headsprout yn cael ei chynnal mewn dros ddeg ysgol yng Ngogledd Cymru gan Dr Carl Hughes, Emily Tyler, Michael Beverley a Bethan Mair Williams a’i chydweithwyr o adran Therapi Iaith a Lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. 

Cadeiriwyd y sesiwn gan Mr Dewi Jones, Pennaeth Addysg Gwynedd. 

Meddai Dr Carl Hughes o Ysgol Seicoleg Bangor: “Darllen ydi un o’r sgiliau pwysicaf y mae plant yn eu dysgu yn eu blynyddoedd cynnar.  Mae gallu darllen yn agor drysau i wybodaeth newydd, sgiliau newydd a phosibiliadau newydd.  Gwaetha’r modd, mae llawer o bobl ifanc yn cael trafferthion wrth ddysgu darllen. 

"Mae Prifysgol Bangor mewn sefyllfa unigryw i fedru astudio'r dechnoleg hon ac mae'n briodol iawn bod y gwaith yma'n cael ei wneud mewn ardaloedd sydd wedi dioddef oddi wrth lythrennedd gwael am sawl cenhedlaeth.  Mae gennym eisoes rai enghreifftiau rhyfeddol o’r ffordd y gall technoleg drawsnewid y ffordd mae pobl ifanc yn dysgu darllen.”

Meddai Dewi R Jones, Pennaeth Addysg Gwynedd: “Mae cyfrifiaduron, y we, dyfeisiadau symudol ac yn y blaen yn golygu bod cyfryngau newydd i hyrwyddo darllen yn dod ar gael i ni.  Rhoddodd yr Athro Twyman sgwrs ragorol inni a ddangosodd yn glir sut mae technoleg yn ein helpu i gyrraedd dysgwyr y mae’n anodd cyrraedd atynt.  Mae Gwynedd eisoes yn dechrau arwain y ffordd o ran treialu’r posibiliadau ac mae dyfodol datblygiad o’r fath i helpu pobl i ddarllen Cymraeg a Saesneg yn hynod gyffrous.”

Ychwanegodd Dr John Parkinson o Pontio: “Dyma’r gyntaf mewn cyfres o sgyrsiau cyhoeddus rydym yn gobeithio fydd yn dod ag ystod o bobl ar draws y Brifysgol a'r gymuned at ei gilydd i drafod achos cyffredin."  

Rhannu |