Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Pleidleisio.jpg)
26 Ebrill 2012
Cyngor i Bleidleiswyr Post ar gyfer Etholiadau Cyngor Caerdydd 2012
Oherwydd camgymeriad argraffu mae’r manylion yn y fersiwn Gymraeg ar flaen yr amlenni ar gyfer pleidleisiau post yn anghywir.
Maent yn nodi bod angen dychwelyd pleidleisiau ar gyfer etholiadau Cyngor Caerdydd erbyn 5 Mai.
Mae’r manylion ar flaen yr amlen yn y fersiwn Saesneg yn gywir, yn ogystal â'r dyddiad, a ddefnyddir yn y fersiwn Saesneg a'r fersiwn Gymraeg ar bum achlysur gwahanol yn y dogfennau ategol, sy'n nodi bod yn rhaid i bleidleisiau post gyrraedd erbyn 10pm ddydd Iau 3 Mai, pan fydd y cyfnod pleidleisio yn cau.
Gellir dychwelyd pleidleisiau post o nawr ymlaen.