Mwy o Newyddion
£4 miliwn i lunio dyfodol y gweithlu yng Ngogledd-Orllewin Cymru
CAFODD cynllun £4 miliwn i helpu dros 1,200 o weithwyr niwclear yn y Wylfa a Thrawsfynydd baratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol yn cael ei lansio heddiw gan Edwina Hart, Y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth.
Bydd prosiect Menter Môn, Llunio’r Dyfodol, yn trafod effaith ailstrwythuro'r diwydiant niwclear o ganlyniad i gynlluniau datgomisiynu y ddau safle yng ngogledd orllewin Cymru. Bydd yn cynnig cyngor gyrfaoedd, mentora, hyfforddiant a chefnogaeth wrth chwilio am waith er mwyn helpu’r gweithlu i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd cyflogaeth o fewn y rhanbarth.
Y bwriad gyda safle Wylfa yw rhoi’r gorau i gynhyrchu trydan yn 2014, gyda thanwydd yn Nhrawsfynydd wedi dod i ben ac ar ganol ei ddatgomisiynu. Bydd Llunio’r Dyfodol yn helpu i leihau’r effaith, cryfhau’r gadwyn gyflenwi a helpu pobl i gael gwaith cynaliadwy . Mae’n fwriad gan y prosiect hefyd i ganolbwyntio ar gyfleoedd hyfforddiant a datblygu er mwyn helpu i ddenu mewnfuddsoddiad i Ynys Môn , yn unol â’r fenter Ynys Ynni , gan ddefnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eisoes gan y gweithluoedd.
Mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan £2.3 miliwn o Gronfa Gymdeithasol Ewrop a chyllid gan brosiect Môn a Menai drwy Lywodraeth Cymru, £1.2 miliwn gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a chyllid ychwanegol gan Gyngor Sir Gwynedd a Chyngor Ynys Môn.
Dywedodd Mrs Hart: “Mae helpu gweithlu gogledd orllewin Cymru i baratoi ar gyfer y dyfodol, cymryd mantais o gyfleoedd newydd a sicrhau cyflogaeth amgen cynaliadwy yn hanfodol i ateb gofynion yr heriau sy’n codi o newid strwythurol yn yr economi ranbarthol. Mae ein defnydd o’r UE a chyllid arall yn dangos sut y gallwn gefnogi ein polisïau cymesur gydag adnoddau i gefnogi ein huchelgais i ddiogelu gweithlu hynod fedrus sy’n gallu addasu ar gyfer yr economi fodern.”
Bydd y cynllun yn cynnig mentora un-i-un ac yn helpu i ddatblygu cynlluniau gweithredu a datblygu unigol fydd yn ateb anghenion rhanbarthol a bylchau mewn sgiliau. Bydd yn cynnig rhaglen ailhyfforddi a rhoi sgiliau newydd i’r gweithlu, yn ogystal â helpu unigolion i gael swyddi neu ddechrau eu busnesau eu hunain o fewn y rhanbarth.
Dywedodd Judy Craske, Cyfarwyddwr Prosiect, Llunio’r Dyfodol: “Mae Llunio’r Dyfodol yn esiampl o’r modd y gall y sector breifat a chyhoeddus gydweithio i fynd i’r afael â newidiadau mewn cyflogaeth a rhoi hwb i amrywiaeth economïau rhanbarthol. Mewn cyfnod o brinder mewn sgiliau technegol allweddol ac arbenigedd peirianneg, mae Gogledd orllewin Cymru yn cynnig cyfuniad unigryw o sgiliau prin y gall cyflogwyr gymryd mantais ohonynt. Rydym wrth ein boddau yn lansio rhaglen sy’n cyfuno adfywio economaidd gyda rheoli talent macro-economaidd, rhaglen fydd yn gwarchod sgiliau gweithwyr allweddol yn y rhanbarth.”