Mwy o Newyddion

RSS Icon
17 Ebrill 2012

Arian i bobl hŷn aros yn eu cartrefi eu hunain

Mae gwasanaethau Gofal a Thrwsio ledled Cymru wedi derbyn £4.67 miliwn gan Lywodraeth Cymru i helpu pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain.

Mae’r gwasanaeth yn cynorthwyo pobl hŷn i drwsio, gwella ac addasu eu cartrefi fel eu bod yn gallu parhau i fyw’n gysurus ac annibynnol, a hynny trwy gynnig amrywiaeth o wasanaethau fel:

cydlynu’r holl wasanaethau sydd eu hangen i gwblhau’r gwaith yn llwyddiannus,
cyngor am yr opsiynau sydd ganddynt o ran tai,
darparu atebion sydyn yn fewnol, yn aml trwy wasanaethau cynnal a chadw Gofal a Thrwsio

Wrth gyhoeddi’r arian, meddai Huw Lewis, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, "Mae Gofal a Thrwsio yn wasanaeth gwerthfawr i alluogi pobl hŷn a bregus trwy Gymru barhau i fyw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd â phosibl. Trwy wneud addasiadau syml i gartref rhywun, fel gosod canllawiau bychain neu risiau gwell, gellir cael effaith fawr ar ansawdd eu bywyd.

“Mae ymchwil diweddar wedi dangos bod pob £1 sy’n cael ei wario ar Ofal a Thrwsio yn arbed £7.50 i’r trethdalwr o ran costau’r GIG a Gofal Iechyd, felly mae gwario arian ar wasanaethau fel hyn hefyd yn gwneud synnwyr ariannol, yn enwedig yn yr adeg anodd hon.

Meddai’r Gweinidog: “Mae Llywodraeth Cymru yn dal wedi ymrwymo i wella bywydau pobl hŷn trwy sicrhau eu bod yn gallu byw’n annibynnol cyhyd y byddant yn dymuno hynny.

"Mae pobl yn byw am fwy o amser, ac fe ddylent hefyd fod yn gallu byw bywyd gweddol. Mae’r arian hefyd yn helpu pobl hŷn i ddychwelyd adref yn gynt ar ôl treulio amser yn yr ysbyty, a dyma enghraifft o’r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella’r gofal i gleifion ac yn mynd i’r afael â’r broblem oedi wrth drosglwyddo o’r naill ofal i’r llall.”

Llun: Huw Lewis

Rhannu |