Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Pwysigrwydd Tata ar agenda taith fasnach i India

Roedd pwysigrwydd Tata i economi Cymru’n bwnc blaenllaw ar agenda’r daith fasnach i India wrth i’r Prif Weinidog Carwyn Jones gwrdd â Chadeirydd y cwmni yn Mumbai ddydd Mercher.

Cafodd y Prif Weinidog drafodaethau gyda Balasubramanian Muthuraman yn ystod rhan ddiweddaraf taith fasnach Llywodraeth Cymru i India. Mae Tata yn gyflogwr allweddol yng Nghymru, gan gyflogi bron i 8,000 o bobl.

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae Llywodraeth Cymru’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd Tata i economi Cymru ac rydyn ni’n meddwl yn fawr o’r berthynas glos ac agored sydd gennym.

"Hoffwn ddiolch i Mr B Muthuraman am gyfarfod calonogol ac adeiladol. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi gweithredoedd y cwmni a’i fuddsoddiad yng Nghymru fel y gallwn sicrhau dyfodol hirdymor disglair drwy weithio gyda’n gilydd.

"Mae Tata’n enghraifft wych i amlygu’r cyfleusterau, y gweithlu a’r gefnogaeth o’r radd flaenaf sydd gan Gymru i’w cynnig i fusnesau rhyngwladol mawr.”

Yn dilyn ei gyfarfod gyda Tata, cafodd y Prif Weinidog ginio busnes gyda chwmnïau o India cyn cynnal trafodaethau gyda Prithviraj Chavan, Prif Weinidog talaith Maharashtra, sef un o’r taleithiau mwyaf cyfoethog yn India. Amcangyfrifir bod tua 112 miliwn o bobl yn byw yno.

Bydd rhai o ddirprwyon y daith fasnach yn mynd ymlaen i Bangalore, sef dinas fasnachol fawr arall yn India.

Rhannu |