Mwy o Newyddion
Enillydd Tlws Mary Vaughan Jones 2012
Jac Jones, un o ddarlunwyr llyfrau plant pwysicaf yr hanner can mlynedd diwethaf, yw enillydd Tlws Mary Vaughan Jones 2012.
Mae’r wobr arbennig hon yn cael ei chyflwyno gan Gyngor Llyfrau Cymru er cof am Mary Vaughan Jones, a fu farw yn 1983. Cyflwynir y tlws bob tair blynedd i berson sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.
“Mae ennill Tlws Mary Vaughan Jones yn fraint aruthrol,” meddai Jac Jones. “Mae’n brofiad arbennig iawn i mi gan mai fi wnaeth ddarlunio Jac y Jwc, un o gymeriadau hoffus Mary Vaughan Jones – cymeriad sydd wedi tyfu yn un o ffefrynnau mawr cenedlaethau o blant.”
Ganed Jac Jones yng Ngwalchmai, Ynys Môn, ar ddydd Gŵyl Dewi 1943. Bu’n byw ym Mryste am gyfnod cyn dychwelyd, yn saith oed, i’w sir enedigol. Yn ddwy a’r bymtheg oed aeth i weithio mewn uned graffeg yn Llangefni cyn mentro ar ei liwt ei hun fel dylunydd graffeg yn 1974.
Yn ystod ei yrfa, mae wedi darlunio dros ddau gant a hanner o lyfrau plant. Er 1976, bu’n cydweithio â llu o awduron, yn darlunio’u gwaith a chyfoethogi eu cyfrolau yn ei arddull unigryw ei hun. Ymhlith y cymeriadau mae wedi eu creu dros y blynyddoedd y mae Mabon a Mabli’r Mudiad Meithrin a Twmff y Gath yn y cylchgrawn plant WCW a’i Ffrindiau. Mae hefyd wedi creu graffeg ar gyfer dwsinau o raglenni teledu. Yn ogystal â darlunio llyfrau gan awduron eraill, mae Jac Jones yn awdur llyfrau plant ac wedi cyhoeddi nifer o gyfrolau yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Mae eisoes wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith am ei waith yn darlunio’r cyfrolau canlynol: Ben y Garddwr a Storïau Eraill yn 1989, Lleuad yn Olau yn 1990, a Stori Branwen yn 1998. Er bod pob llyfr mae wedi gweithio arno wedi bod yn bwysig iddo, mae cyfrannu at ambell deitl mwy uchelgeisiol wedi bod yn brofiad arbennig iawn. Ymhlith y teitlau yma mae Chwedlau Grimm, addasiad Dyddgu Owen, a Drama’r Nadolig gan Gwyn Thomas. Enillodd darn o’r gwaith celf a greodd ar gyfer Lleuad yn Olau le yn Premi de Catalonia, cyfeirlyfr o waith arlunwyr plant y byd.
“Mae cyfraniad Jac Jones wedi bod yn allweddol i ddatblygiad llyfrau plant yng Nghymru,” meddai Delyth Humphreys, Pennaeth Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen y Cyngor Llyfrau. “Anodd mesur maint ei ddylanwad wrth i ddiwyg llyfrau gwreiddiol yn y ddwy iaith wella dros y blynyddoedd. Wrth ei longyfarch ar ennill Tlws Mary Vaughan Jones – yr anrhydedd uchaf ym maes llyfrau plant yng Nghymru – carem ddiolch iddo hefyd am ei gyfraniad amhrisiadwy.”
Cyflwynir Tlws Mary Vaughan Jones 2012 i Jac Jones mewn seremoni arbennig a gynhelir yn Oriel Môn, Llangefni, nos Wener, 1 Mehefin 2012.
Ers ei gyflwyno am y tro cyntaf yn 1985, enillwyd Tlws Mary Vaughan Jones gan Ifor Owen, Emily Huws, T. Llew Jones, W. J. Jones, Roger Boore, J. Selwyn Lloyd, Elfyn Pritchard, Mair Wynn Hughes ac Angharad Tomos.
LLUN: Jac Jones