Mwy o Newyddion
Yr Eisteddfod yn cynnal y noson gomedi Gymraeg fwyaf erioed
Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol fydd cartref y noson fwyaf yn hanes comedi Cymraeg yng Nghymru, wrth i’r Brifwyl gynnal eu Gala Gomedi gyntaf erioed, nos Fawrth 7 Awst eleni.
Tudur Owen, Ifan Tregaron, Gary Slaymaker, Daniel Glyn, Dewi Pws, Phil Evans, Mr Phormula, Dean ap Johnson ac Arthur Picton fydd yn diddanu’r gynulleidfa ar y noson, ac mae’r cyfuniad cyffrous yma o berfformwyr yn sicr o apelio at gynulleidfa o bob cwr o Gymru.
Dyma’r tro cyntaf i’r Eisteddfod gynnal noson gomedi, ac meddai’r Prif Weithredwr, Elfed Roberts, “Mae comedi wedi dod yn fwy fwy poblogaidd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda nifer o ddigrifwyr yn perfformio i gynulleidfaoedd eang mewn theatrau ac arenas ym mhob rhan o’r wlad. Ein bwriad ni yw troi’r Pafiliwn i mewn i arena gomedi am un noson ym Mro Morgannwg, gan adeiladu ar y gwaith pwysig mae Maes C wedi’i wneud yn hyrwyddo comedi Cymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.
“Rydym yn gobeithio y bydd y Gala Gomedi’n noson a fydd yn apelio at Eisteddfodwyr selog ac at gynulleidfa sy’n newydd i Bafiliwn y Brifwyl ac i gyngherddau’r Eisteddfod, ond sydd efallai wedi mynychu nosweithiau ym Maes C yn y gorffennol. Mae tocynnau ar gyfer y noson yn cychwyn am £10 ac maen nhw eisoes ar werth felly ewch ati i’w harchebu cyn gynted ag sy’n bosibl.”
Mae’r digrifwr, Daniel Glyn, yn un o drefnwyr y noson ac fe fydd hefyd yn ymddangos ar lwyfan y Pafiliwn fel rhan o’r lein-yp. Dywedodd, “Hon fydd y noson fwyaf yn hanes comedi Cymraeg. Mae’r ffaith ein bod ni wedi llwyddo i ddenu cymaint o ddigrifwyr o wahanol rannau o Gymru’n dangos bod standup Cymraeg yn fyw ac yn iach. Mynnwch eich tocynnau ar frys!”
Mae’r Gala Gomedi yn addas ar gyfer pobl dros 14 oed yn unig.
Mae tocynnau ar gyfer y noson ar werth, a gellir eu prynu, naill ai arlein – www.eisteddfod.org.uk – neu drwy ffonio’r linell docynnau ar 0845 4090 800. Eleni, am y tro cyntaf, gellir dewis eich sedd wrth brynu tocynnau arlein, gyda system docynnau ddiwygiedig yr Eisteddfod, sy’n rhoi llawer mwy o ryddid i bwy bynnag sy’n prynu’r tocynnau.
Dim ond un o gyfres o gyngherddau a nosweithiau yn y Pafiliwn yw’r Gala Gomedi. Only Men Aloud, Only Boys Aloud a chôr plant newydd sy’n cael ei greu’n arbennig ar gyfer y cyngerdd, Only Vale Kids Aloud, yw sêr cyngerdd agoriadol yr Eisteddfod eleni. Bydd Karl Jenkins yn arwain y premiere Prydeinig o’r waith diweddaraf, ‘Beirdd Cymru’ , gyda’r unawdwyr Dennis O’Neill a Rebecca Evans a chôr yr Eisteddfod, nos Sadwrn 4 Awst. Cynhelir y Gymanfa Ganu, dan arweinyddiaeth Euros Rhys Evans a chyda Robert Nicholls ar yr organ, nos Sul.
Nos Lun, cawn ddathlu hanner canmlwyddiant Dafydd Iwan yn diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru, mewn noson arbennig, ‘Degawdau Dafydd Iwan’. ‘Noson yng nghwmni Caryl’ sydd yn y Pafiliwn nos Iau 9 Awst, cyfle i fwynhau doniau’r berfformwraig amryddawn, Caryl Parry Jones, a rhai o’i chymeriadau hen a newydd.
Bydd cystadlu yn y Pafiliwn gyda’r nos ddydd Mercher a dydd Gwener.
Darperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn rhad ac am ddim o’r Gymraeg i’r Saesneg yn y cyngerdd agoriadol, y Gymanfa Ganu a’r ddwy noson o gystadlu. Ewch i gaban y cyfieithwyr wrth ymyl y Pafiliwn i gael eich ffonau clust cyn i’r cyngerdd gychwyn.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir hen faes awyr Llandw, ger y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst. Am ragor o fanylion ewch i www.eisteddfod.org.uk.