Mwy o Newyddion
S4C yn camu i galon Cwmtawe
Mae S4C ar fin cychwyn llu o weithgareddau rhad ac am ddim yn ardal Cwmtawe fel rhan o ymweliad S4C i’r gymuned.
Rhwng y 16eg o Ebrill a’r 4ydd o Fai bydd S4C yn rhoi’r cyfle i drigolion Cwmtawe i fwynhau digwyddiadau, personoliaethau a gwasanaethau S4C drwy gynnig blas ar eu rhaglenni. Ymhlith y personoliaethau fydd yn cymryd rhan yn ystod yr wythnosau fydd cyflwynydd Byw yn yr Ardd, Russell Jones, cyflwynwyr fersiwn newydd sbon o’r gyfres Sion a Siân, Stifyn Parri a Heledd Cynwal a ffefrynau cast Pobol y Cwm.
Bydd y digwyddiadau yn cychwyn ar y 16eg o Ebrill pan fydd cyflwynwyr rhaglen gylchgrawn S4C, TAG, Geraint Hardy ac Elin Llwyd yn y cyntaf o’u hymweliadau ag ysgolion yr ardal. Bydd y ddau yn teithio i ysgolion lleol yr ardal i gynnig blas ar TAG, sy’n cael ei ddarlledu bob nos Wener ar S4C am 5.30pm.
Ar nos Iau’r 19eg o Ebrill, bydd Chris Jones, cyflwynydd tywydd S4C, yn cyflwyno’r garddwr unigryw Russell Jones mewn noson arbennig yng Nghlwb Golff Treforys. Trefnwyd y noson ar y cyd gyda Merched y Wawr, Rhanbarth Gorllewin Morgannwg. Ar y noson bydd cystadleuaeth arbennig gwau het newydd i Russell, - a bydd y garddwr yn beirniadu’r gystadleuaeth ac yn cynnig gwobr o £100 i’r enillydd. Bydd cyfres newydd o Byw yn yr Ardd yn cychwyn ar S4C ar y 18fed o Ebrill am 8.25pm.
Meddai Russell Jones: "Dw i’n edrych ymlaen yn arw i fynd allan i gwrdd â gwylwyr S4C a Byw yn yr Ardd; mae’n grêt bod S4C yn mynd allan i’r cymunedau i siarad yn uniongyrchol â phobl sy’n gwylio ac yn cefnogi S4C. I goroni’r cyfan, edrychaf ymlaen at wisgo’r het fuddugol!"
Mae S4C eisoes wedi ymweld â chymunedau yn Wrecsam, Blaenau Gwent, Ceredigion, Llŷn ac Eifionydd a Sir Fôn gan godi arian er budd elusennau lleol a gweithgareddau cymunedol.
Meddai Garffild Lloyd Lewis, Cyfarwyddwr Cyfathrebu S4C: "Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle i fynd i Gwmtawe, i gwrdd â’n gwylwyr ac i roi blas o’r hyn sydd i ddod ar y sianel cyn hir. Rydym yn estyn gwahoddiad i bawb fwynhau’r amryw o weithgareddau ac adloniant rhad ac am ddim sydd wedi’u drefnu, ac i gwrdd â rhai o wynebau mwyaf adnabyddus y Sianel."
Ymhlith digwyddiadau eraill, bydd Stifyn Parri a Heledd Cynwal yn cynnal noson o sbort ymysg y gymuned. Bydd dau gwpwl lleol yn ceisio ennill arian wrth gystadlu yn Sion a Siân ar y 23ain o Ebrill yng Nghlwb Rygbi Glanaman. Hefyd bydd cyfle i ymuno â sêr Pobol y Cwm mewn cwis dafarn yng Nghlwb Criced a Phêl Droed Ynystawe ar y 24ain o Ebrill gydag Emyr Wyn, sy’n chwarae rhan Dai Sgaffalde, yn gwisfeistr.
Hefyd, bydd cyfle i bobl yr ardal ddatgan eu barn am raglenni a gwasanaethau’r sianel a chyfarfod ag Ian Jones, Prif Weithredwr newydd S4C, Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, a Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C mewn Noson Gwylwyr S4C yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe ar nos Iau, y 26ain o Ebrill. Heledd Cynwal fydd yn arwain y noson gydag adloniant gan Gôr Cefnogwyr y Gweilch.
Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau yng Nghwmtawe, ewch i’r wefan: s4c.co.uk/caban neu cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C ar 0870 6004141 neu gwifren@s4c.co.uk
LLUN: Russell Jones