Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Dysgu nofio gydag arwres Baralympaidd

Bydd nofiwr Paralympaidd sy'n hyfforddi yn Abertawe ar gael yn fuan i roi cyfle i bobl ifanc ddysgu sut i nofio.

Mae Stephanie Millward, sy'n hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe yn ceisio helpu 10 o bobl ifanc rhwng 12 a 16 oed nad ydynt yn nofio i ddysgu sut i nofio a magu hyder yn y dŵr.

Bydd Stephanie, sydd wedi derbyn arian gan Sefydliad Ieuenctid Coca Cola, yn gweithio gyda Phwll Cenedlaethol Cymru a Thîm Datblygu ac Allgymorth Cyngor Abertawe.

Bydd y cynllun 10 wythnos yn dechrau ym Mhwll Cenedlaethol Cymru ddydd Mercher 25 Ebrill rhwng 6pm a 7pm.

Dylai unrhyw a hoffai gael ei ystyried ar gyfer y gwersi fynd i www.swansea.gov.uk/swimcomp am fanylion ac amodau a thelerau llawn. Rhaid i'r ymgeiswyr anfon e-bost yn amlinellu pam, yn eu barn nhw, y dylent gael y cyfle hwn.

Y dyddiad cau er mwyn gwneud cais yw dydd Iau 19 Ebrill.

Meddai Stephanie, "Mae nofio wedi bod yn rhan eithriadol o bwysig o'm bywyd a bydd yn brofiad gwych i roi awgrymiadau i'r rhai nad ydynt yn gallu nofio a'u helpu gyda'u hyder yn y dŵr.

"Rwy'n gobeithio y bydd yn helpu'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan i ddwlu ar nofio ar hyd eu hoes."

Meddai Ian Beynon, Rheolwr Datblygu ac Allgymorth Cyngor Abertawe, "Dyma gyfle gwych i bobl ifanc nad ydynt yn nofio ddysgu sut i nofio.

"Mae Stephanie yn ysbrydoliaeth i athletwyr ar draws y DU a'r tu hwnt a bydd ei harbenigedd a'i brwdfrydedd yn helpu 10 o bobl ifanc i ddatblygu sgiliau allweddol yn y dŵr.

"Dyma enghraifft arall o'n hymgyrch Byddwch yn Rhan Ohono sydd wedi'i lansio yn y cyfnod cyn y Gêmau Olympaidd a Pharalympaidd i annog cynifer o bobl â phosib i fwynhau manteision chwaraeon ac ymarfer corff."

Roedd Stephanie yn nofiwr ffit ac iach llwyddiannus a oedd yn breuddwydio am gystadlu yn y Gêmau Olympaidd cyn iddi gael gwybod ei bod yn dioddef o sglerosis ymledol yn 17 oed ym 1998.

Dychwelodd i'r pwll yn 2008 a chystadlodd yng Ngêmau Olympaidd Beijing. Yna enillodd sawl medal ym Mhencampwriaethau Nofio'r Byd IPC yn Eindhoven yn 2010 a bellach mae'n paratoi i gystadlu yn Llundain 2012.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu rhoi'r hyn maent wedi'i ddysgu ar waith yn ystod Diwrnod Hwyl 'Sblash a Sbrint' Stephanie Millward ar 7 Gorffennaf.

Cynhelir y digwyddiad ym Mhwll Cenedlaethol Cymru rhwng 9.30am a 4pm a bydd yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon llawn hwyl yn y pwll ac yn yr awyr agored. Mae ar agor i bobl ifanc rhwng 12 ac 16 oed.

Ewch i www.abertaweactif.com i gael gwybodaeth am gyfleoedd nofio ar draws y ddinas.

Rhannu |