Mwy o Newyddion
Gwasanaeth newydd ar gyfer pobl ifanc Gwynedd yn magu gwreiddiau
Mae gwasanaeth sy’n gweithio i wella bywydau plant anabl a’u teuluoedd yn cael ei ail-lansio.
Mae Derwen yn wasanaeth integredig ar gyfer plant anabl a phlant gyda salwch sy’n tynnu arbenigedd Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr at ei gilydd.
Gwasanaeth Arbenigol Plant oedd enw’r gwasanaeth cynt, ond bellach y mae wedi ei ail-strwythuro, a'r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth sydd wedi llywio’r gwaith o ddylunio logo newydd ar ei gyfer.
Dywedodd Iona Griffith, Rheolwr Gwasanaeth Derwen i Gyngor Gwynedd: “Dyma gyfnod cyffrous i’r gwasanaeth ac mae’n benllanw blynyddoedd o waith i’r ddau bartner.
“Mae ein timau proffesiynol wedi gweithio’n agos ers blynyddoedd lawer, ond bellach mae’n bartneriaeth ffurfiol, ac ein bwriad yw gwella gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd.
“Un rhan hanfodol o’r ddarpariaeth ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd yw ein Gwasanaethau Cefnogol. Mae gennym oddeutu 80 o weithiwyr cefnogol sy’n gweithio i Derwen drwy Wynedd, drwy roi 600 awr yr wythnos i gefnogi 150 o bobl ifanc sydd ag anableddau.
“Maent yn helpu plant a phobl ifanc i fod yn fwy annibynnol a hyderus drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac addysgol tu allan i’r ysgol neu goleg. Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau grŵp a chlybiau ieuenctid.”
Ychwanegodd: “Bu i bobl ifanc sy’n mynychu ein clwb ieuenctid pob nos Fercher yng Nghanolfan Tŷ Cegin, Bangor helpu'r dylunydd Llŷr Pierce i greu logo newydd ar gyfer y gwasanaeth. Mae’r cynllun newydd o goeden yn cyd-fynd i’r dim a’n henw newydd ac mae’n lliwgar iawn.”
Dyma oedd gan rai o aelodau clwb ieuenctid Canolfan Tŷ Cegin i’w ddweud am y gweithgareddau sy’n cael eu trefnu gan Derwen:
Dywedodd Mari, sy’n 14 oed: “Dwi’n dod i’r clwb ers hydoedd. Dwi’n mwynhau chwarae ar y cyfrifiadur, chwarae pêl-droed a thrio pethau newydd. Dwi hefyd yn hoffi’r staff yma.”
Dywedodd Rachel, 14 oed: “Dwi’n hoffi dod i’r clwb a gwneud ffrindiau newydd ac rydan ni’n cael chwarae gemau cyfrifiadur. Dwi’n hoffi gwneud celf a chrefft yma. Dwi eisiau bod yn artist pan dwi wedi tyfu fyny.”
Dywedodd Steph, sy’n 15 oed: “Dwi’n mwynhau dod i’r clwb i weld fy ffrindiau. Rydym i gyd yn mynd i ysgolion gwahanol felly rydym yn cael gweld ein gilydd yma bob wythnos. Rydw i’n hoffi gwrando ar gerddoriaeth yma.”
Bydd y gwasanaeth Derwen ar ei newydd wedd yn cael ei lansio yn swyddogol yn ystod dwy sesiwn Diwrnod Dathlu’r Teulu ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd, a gynhelir ym Mhorthmadog a Chaernarfon ddydd Sadwrn, 21 Ebrill.
I gysylltu â Derwen yn eich ardal chi
Arfon – 01286 674686
Dwyfor – 01758 701000
Meirionnydd – 01341 424503
Neu e-bostiwch derwen@gwynedd.gov.uk