Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Undeb Rygbi Cymru yn Cael Blas ar Ginio Mawr y Jiwbilî

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi datgan ei gefnogaeth i Ginio Mawr y Jiwbilî ac mae’n annog clybiau rygbi Cymru i gymryd rhan yn y digwyddiad ar 3 Mehefin.

Mae Cinio Mawr y Jiwbilî, sy’n cael ei noddi gan Ei Huchelder Brenhinol Duges Cernyw, yn rhan o’r rhaglen swyddogol o weithgareddau i ddathlu Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines. Mae Cinio Mawr y Jiwbilî yn cael ei arwain gan yr Eden Project, a’i nod yw annog cymdogaethau i ddod ynghyd i rannu cinio a mwynhau cyfeillgarwch a hwyl gymunedol am awr neu ddwy. Dyma bedwaredd flwyddyn y fenter hon a ariennir gan y Loteri, a’r llynedd daeth bron dwy filiwn o bobl ynghyd yn eu cymunedau. Disgwylir i fwy o bobl nag erioed yng Nghymru gymryd rhan yn y dathliadau dros Benwythnos y Jiwbilî Ddiemwnt eleni.

Meddai Sam Warburton, Capten Tîm Rygbi Cymru: “Mae gennym sawl achos dathlu yng Nghymru eleni – mae Cymru wedi ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a’r Gamp Lawn ac mae dathliadau Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines ar y gorwel. Mae clybiau rygbi wrth galon cymunedau Cymru felly mae Cinio Mawr y Jiwbilî yn gyfle gwych i ddathlu’r digwyddiad cofiadwy hwn drwy ddod ynghyd, rhannu cinio a gwneud ffrindiau newydd. Rwy’n deall bod cymryd y cam cyntaf i ddod i adnabod eich cymdogion yn well yn gallu bod yn anodd, ond mae help ar gael ar wefan www.thebiglunch.com. Gallwch ofyn am becyn rhad ac am ddim sy’n cynnwys gwahoddiadau, posteri a syniadau am ryseitiau gan bobl enwog.”

Mae Cinio Mawr y Jiwbilî dan arweiniad yr Eden Project yn cael ei noddi gan y Gronfa Loteri Fawr mewn partneriaeth â MasterCard, EDF Energy, Kingsmill ac Asda.

Meddai Tim Smit KBE, Prif Weithredwr yr Eden Project: "Mae gan Brydain draddodiad hir o drefnu partïon stryd ar gyfer dathliadau Brenhinol. Mae’n anrhydedd i ni gymryd rhan ym mhenwythnos Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines, ac rydym yn siŵr y bydd miliynau o bobl yn torri bara gyda’i gilydd ar 3 Mehefin, gan sicrhau mai hwn fydd y Cinio Mawr gorau erioed."

Meddai John Rose, cyfarwyddwr y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru: “Mae’r Cinio Mawr wedi bod yn llwyddiant ysgubol o ran pwysleisio manteision bod yn rhan o gymuned, ac mae pobl Cymru wedi gwneud ymdrech fawr i gefnogi’r fenter ar gyfer y Jiwbilî Ddiemwnt eleni. Mae’n ffo

Rhannu |