Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Cyngerdd Dathlu 60 yn codi’r to yng Nghapel y Garsiwn

Daeth tonau cyfoethog, persain côr meibion Cymraeg a doniau gwych band catrodol Cymreig enwog at ei gilydd yn ddiweddar i greu digwyddiad unigryw i ddathlu pen-blwydd diemwnt mewn safle hanesyddol.

 

Yng Nghapel y Garsiwn yn Noc Penfro, a adferwyd yn ddiweddar, llwyfannwyd cyngerdd gofiadwy iawn i ddathlu pen-blwydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chôr Meibion Penfro a’r Cylch yn 60.

Yng nghwmni Band Catrodol y Gwarchodlu Cymreig, nodwyd dyddiadau pwysig y mudiadau, tra’n codi swm sylweddol o arian i elusennau lleol a milwrol. Roedd yn gyfle gweddol unigryw i gael gweld y band enwog hwn, a berfformiodd yn y Briodas Frenhinol fis Ebrill diwethaf.

Meddai Cadeirydd yr Awdurdod, y Cyng. Tony Brinsden: “Roedd y perfformiadau yn y gyngerdd yn neilltuol a’r holl drefniadau’n arbennig o lyfn. Roeddem yn ffodus iawn i allu cysylltu ein dathliadau 60 at ddigwyddiad a gododd swm hael iawn o arian at achosion teilwng iawn, gan gynnwys Ymddiriedolaeth Sunderland yn Noc Penfro, ble mae pencadlys yr Awdurdod.

“Roedd yr holl docynnau wedi gwerthu o fewn diwrnodau a Chapel y Garsiwn dan ei sang ar gyfer y digwyddiad cymunedol neilltuol hwn.“

 

Rhannwyd yr arian a godwyd rhwng Apêl Afgan y band ac Ymddiriedolaeth Sunderland. Cyflwynodd Prif Weithredwr yr Awdurdod, Tegryn Jones, siec am £2,000 i Ymddiriedolaeth Sunderland, gyda Chadeirydd y côr Frank Harries yn cyflwyno siec i’r Bandfeistr Bywater am yr un swm i Apêl Afgan.

Gweithiodd yr Awdurdod yn agos gyda Phil Thompson, Llywydd CMPC, Aelodau Pwyllgor y côr, Valero ac Ymddiriedolaeth Sunderland i drefnu’r digwyddiad dathlu hwn a’i hyrwyddo.

Ymhlith y swyddogion a oedd yn bresennol roedd y Prif Weithredwr Tegryn Jones, Cadeirydd yr Awdurdod y Cyng. Tony Brinsden, Maer a Maeres Penfro a Maer a Maeres Doc Penfro ac Is-gadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cyng. Peter Morgan.

Roedd y rhaglen yn cynnwys arlwy o ganeuon hyfryd iawn gan y côr gyda blas swynol ar dalent y Band Catrodol hwnt ac yma. Cyflwynwyd y gyngerdd gan Ysgrifennydd y côr, Phil Lloyd ac fe fu hefyd yn cyflwyno yn ystod rhannau o’r noson, gan gynnwys neges i ddathlu pen-blwydd y Parc Cenedlaethol.

 

LLUN: Prif Weithredwr Awdurdod y Parc, Tegryn Jones, a’r Cadeirydd Tony Brinsden yn cyflwyno siec i Ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Sunderland, Gareth Scourfield gyda Bandfeistr W01 Craig Bywater yn derbyn rhodd gan Gadeirydd y Côr, Frank Harries a Llywydd y Côr, Phil Thompson. (Llun: Martin Cavaney)

Rhannu |