Mwy o Newyddion

RSS Icon
13 Ebrill 2012

Timau pêl-droed yn wynebu hen elyn

Mae clybiau pêl-droed sy’n chwarae yng nghaeau Parc Helen yng Nghaernarfon wedi gorfod delio gyda mwy na’u gwrthwynebwyr yn ddiweddar oherwydd problemau gyda baw ci ar y meysydd.

Mae swyddogion o dimau pêl-droed Waunfawr a Caernarfon Borough, sydd ill dau yn chwarae ar y meysydd ym Mharc Helen, yn adrodd fod baw cŵn yn broblem gynyddol ac maent yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i annog perchnogion cŵn i wneud eu rhan dros yr amgylchedd a llnau ar ôl eu hanifeiliaid anwes.

Dywedodd Emyr Williams, Llywydd clwb pêl-droed Caernarfon Borough fod y sefyllfa yn destun pryder.

Meddai: “Mae’r problemau gyda’r baw cwn yn arbennig o ddrwg o’r Pasg ymlaen gan fod nifer cynyddol o bobl yn defnyddio’r safle at ddibenion hamdden. Mae hefyd yn destun pryder gan fod y safle yn cael ei ddefnyddio gan nifer o dimau ieuenctid.”

Mae’r broblem wedi bod cynddrwg yn ystod y misoedd diwethaf fod angen oedi gemau tra bod swyddogion o’r clybiau yn trafod gyda’r dyfarnwr er mwyn clirio baw ci.

Ychwanegodd Lyndon Roberts, rheolwr clwb pêl-droed Waunfawr: ”Mae timau eraill yn dod yma weithiau ac yn gwrthod chwarae tan fod y broblem yn cael ei sortio. Yn ystod sesiynau ymarfer rydan ni’n gosod cons dros unrhyw faw ci’r ydan ni’n ei weld - weithiau mae’n edrych fel maes ffrwydron erbyn yr amser yr ydan ni wedi gorffen.”

Dywedodd Jonathan Neale, Swyddog Trefi Taclus Cyngor Gwynedd: “Mae’r mwyafrif o berchnogion cwn yn parchu tiroedd a mannau cyhoeddus, ond mae lleiafrif bychan sy’n parhau i dorri’r gyfraith a gwrthod glanhau ar ol eu hanifeiliaid anwes.

“Fel Cyngor, rydym yn awyddus i weithio mewn partneriaeth gyda thrigolion lleol sy’n ymfalchïo yn eu hamgylchedd lleol ac er mwyn sicrhau fod perchnogion cwn yn cymryd cyfrifoldeb a glanhau ar ol eu cwn.

“Mae hi’n drosedd peidio â chlirio os ydi ci o dan eich rheolaeth faeddu mewn unrhyw lecyn cyhoeddus. Gall troseddwyr dderbyn cosb benodol o £75 gan Wardeiniaid Gorfodaeth Cyngor Gwynedd, Staff Morwrol a Pharciau Gwledig neu Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Gallai methu â thalu’r ddirwy arwain at wys llys a dirwy o hyd at £1,000.”

Ychwanegodd Rheolwr Canolfan Hamdden Arfon Cyngor Gwynedd, Gerallt Wyn Roberts: “Yn ddiweddar, rydym wedi derbyn nifer o gwynion am faw ci ar ein caeau pêl-droed a chaeau hamdden yng Nghaernarfon. Tydi’r sefyllfa ddim yn deg ar ddefnyddwyr y parciau ac yn waeth na hynny mae hefyd yn gallu arwain at salwch difrifol, yn enwedig i blant.”

Mae’r caeau chwarae ym Mharc Helen, sydd wedi eu lleoli gyferbyn a chastell Caernarfon ac ar lannau’r Fenai, hefyd yn lleoliad ar gyfer digwyddiadau chwaraeon o bwys, megis y digwyddiad Ras am Fywyd blynyddol a Ras Ffordd 10K Caernarfon.

Gall dod i gysylltiad â baw cwn achosi ‘toxocariasis’ sy’n gallu arwain at salwch difrifol a hyd yn oed ddallineb. Mae plant yn arbennig o agored i niwed yn hyn o beth.

 

Sut allwch chi helpu?

Os ydych chi’n berchennog ci gwnewch yn siwr eich bod yn mynd â bagiau pwrpasol gyda chi wrth fynd a’r ci am dro. Gallwch roi baw ci sydd wedi ei rwymo mewn bag plastig mewn bin cyhoeddus neu ewch a fo adref a’i roi yn y bin.

Mae pecynnau clirio baw ci rhad ac am ddim ar gael gan Swyddog Trefi Taclus Cyngor Gwynedd ar 01766 771000 neu e-bostiwch trefitaclus@gwynedd.gov.uk

I adrodd am broblemau baw ci cysylltwch â Thîm Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd ar 01766 771000 neu ewch i www.gwynedd.gov.uk/gwnewch-o-ar-lein - bydd unrhyw wybodaeth rydych yn ei rhoi yn gyfrinachol.

Cefnogir cynllun Trefi Taclus Cyngor Gwynedd gan Lywodraeth Cymru.

Yn ystod 2011-12, fe wnaeth Tîm Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd gyflwyno dros 200 o rybuddion cosb sefydlog am droseddau baw ci a sbwriel.

 

LLUN: Keith Williams, Swyddog Gorfodaeth Stryd Cyngor Gwynedd a Gerallt Wyn Roberts, Rheolwr Canolfan Hamdden Arfon

Rhannu |