Mwy o Newyddion
“A ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân?”
MAE Llywodraeth Cymru wedi lansio trafodaeth gyhoeddus ynghylch a ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.
Ym mis Mawrth 2011, pleidleisiodd pobl Cymru “ie” mewn refferendwm ynghylch rhoi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud deddfwriaeth sylfaenol mewn ugain maes polisi datganoledig.
Mae’r cyfreithiau sy’n cael eu gwneud yng Nghymru, ar gyfer Cymru, yn parhau i fod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Nid yw hynny’n wir am yr Alban a Gogledd Iwerddon, sydd ag awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.
Ers 1999, mae’r gwahaniaethau rhwng cyfreithiau Cymru a chyfreithiau Lloegr wedi cynyddu – yn enwedig ym meysydd addysg, iechyd a gofal cymdeithasol – er mwyn cwrdd ag anghenion penodol pobl Cymru.
O ganlyniad i’r refferendwm, gwelwyd llawer o drafod ynghylch a ddylai Cymru hefyd fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu beidio. Yn 2011, traddododd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, araith i Gynhadledd Cymru’r Gyfraith lle cyhoeddodd bod angen cynnal trafodaeth gyhoeddus ar fater Awdurdodaeth Gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones: “Mae natur gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig wedi newid yn sylweddol er pan ddatganolwyd pwerau i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym 1999.
“Mae Cymru yn hen wlad, ond yn ddemocratiaeth ifanc. Fel y Prif Weinidog, fy mhrif flaenoriaeth yw gwneud i ddatganoli weithio fel ein bod yn cyflawni ein hymrwymiadau i bobl Cymru. Mae’n hanfodol datblygu system gyfreithiol sy’n addas ar gyfer Cymru iach a ffyniannus.
“Yn anorfod, bydd datganoli pwerau pellach i Lywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol yn golygu y bydd cyfreithiau sy’n fwy neilltuol Gymreig yn berthnasol i Gymru yn y dyfodol, sy’n golygu y bydd yna wahaniaethau cynyddol rhwng y cyfreithiau sy’n gymwys yng Nghymru a’r cyfreithiau sy’n gymwys yn Lloegr.
“Rydym ni’n teimlo ei bod yn hanfodol erbyn hyn cael trafodaeth gyhoeddus ynghylch a ddylai Cymru fod yn awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu beidio, ynghyd â goblygiadau posibl hyn ar gyfer Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.”
Dywedodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Theodore Huckle CF: “Ar hyn o bryd, mae’r holl gyfreithiau sy’n cael eu pasio ar gyfer Cymru, boed hynny gan y Cynulliad, Gweinidogion Cymru, Senedd San Steffan neu Weinidogion Llywodraeth y DU, yn dod yn rhan o gyfraith Cymru a Lloegr. Mae hyn oherwydd bod Cymru a Lloegr yn rhannu’r un awdurdodaeth gyfreithiol, a bod un system o lysoedd, barnwyr a phroffesiynau cyfreithiol wedi datblygu’n nodwedd neilltuol o’r awdurdodaeth honno.
“Rydym ni’n glir y gall awdurdodaethau cyfreithiol ar wahân fodoli o fewn Teyrnas Unedig – mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu hawdurdodaethau eu hunain sy’n wahanol i’r un ar gyfer Cymru a Lloegr.
“Yn y cyd-destun hwn, dyma’r amser iawn i ystyried a dylid cael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân ar gyfer Cymru neu beidio.”
Llun: Carwyn Jones