Mwy o Newyddion
Euryn Ogwern Williams yn Llywydd Eisteddfod 2012
EURYN Ogwen Williams o’r Barri yw Llywydd yr Ŵyl Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg eleni.
Yn adnabyddus yn y byd darlledu ers blynyddoedd, ganwyd Euryn ym Mhenmachno yng Ngwynedd, ac ar ôl i’r teulu symud i Goedllai ger Yr Wyddgrug, fe’i addysgwyd yn Ysgol Alun yn y dref honno, cyn graddio mewn Athroniaeth a Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
Aeth yn syth i’r sector ddarlledu, gan weithio’n gyntaf fel Cyfarwyddwr Rhaglenni gyda chwmni TWW yng Nghaerdydd, cyn symud i Deledu Harlech, pan gipiodd y cwmni y fasnachfraint ar gyfer Cymru a’r Gorllewin. Bu’n gynhyrchydd a phennaeth adran gyda’r cwmni cyn penderfynu mynd yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd llawrydd, ac yn ystod y cyfnod hwn, bu’n gweithio i’r BBC a HTV.
Fe’i penodwyd yn bennaeth rhaglenni S4C pan ddechreuodd y sianel yn 1982, a bu yno am ddeng mlynedd, gan weithredu fel Dirprwy Brif Weithredwr yn ogystal o 1988-1991.
Ar ôl gadael S4C, bu’n ymgynghorydd yn yr Alban i’r gwasanaeth teledu Gaeleg, yn Iwerddon i’r gwasanaeth Gwyddeleg, a bu hefyd yn gweithio fel ymgynghorydd i S4C yn ystod y cyfnod ar gychwyn teledu digidol.
Roedd yn un o aelodau cynnar Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn gweithredu fel ymgynghorydd i Bwyllgor Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystod ei arolwg gyntaf o’r iaith Gymraeg. Bu hefyd yn un o Ymddiriedolwyr Cwmni Acen o’r cychwyn.
Mae’n enillydd ac yn feirniad yn Adran Lenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn awdur cyfrol o farddoniaeth. Ef yw Cadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Bro Morgannwg eleni.
Yn briod â Jenny Ogwen ac yn dad i Sara a Rhodri, mae Euryn hefyd yn daid i Soffia, Gabriel Jac a Jodie Rhiannon. Mae wedi ymgartrefu yn y Barri ers 1971 ac mae’n Ysgrifennydd Eglwys Annibynnol y Tabernacl yn y dref. Bu’n olygydd Y Ddolen, papur misol yr eglwys, yn ddi-dor ers pymtheng mlynedd.
Mae’n dilyn ôl troed rhai o fawrion Cymru yn ei rôl fel Llywydd yr Ŵyl, gyda’r cyn Brif Weinidog, Rhodri Morgan, yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, yr Athro Prys Morgan, Guto Harri, Daniel Evans a Mair Carrington Roberts, i gyd wedi bod yn Lywyddion dros y blynyddoedd diwethaf.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar dir hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen a Llanilltud Fawr o 4-11 Awst. Am ragor o fanylion ewch i www.eisteddfod.org.uk.