Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mawrth 2012

Mici Plwm yn sefyll fel ymgeisydd Plaid yn yr etholiadau lleol

Diddanwr enwog Cymreig yw un o ymgeiswyr Plaid Cymru Gwynedd ar gyfer yr etholiadau lleol a gynhelir ar Fai’r 3ydd. Mici Plwm yw’r ymgeisydd ar gyfer Ward Clynnog, sedd sydd ar hyn o bryd ym meddiant Arweinydd Llais Gwynedd ar y Cyngor, Y Cynghorydd Owain Williams.

Mae Mici Plwm wedi diddanu cenedlaethau o blant fel ‘Plwmsan’ yn un o’r rhaglenni plant mwyaf poblogaidd Cymru "Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan." Wynfford Ellis Owen oedd ei gyd-actor yn y gyfres boblogaidd.

Mae Mici, o Bwllheli, bellach yn rhedeg cwmni cysylltiadau cyhoeddus a digwyddiadau ac yn gweithio ar amryw o brosiectau gan gynnwys cynllun poblogaidd Heneiddio’n Hŷn Age Cymru ar gyfer pobl oedrannus yng Nghanolfan Nefyn, Llŷn mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Bangor.

"Rwyf wedi dewis sefyll i Blaid Cymru Gwynedd oherwydd fy mod yn credu y bydd Plaid yn creu cyfleoedd ar gyfer aelodau o’r cyhoedd, gan gynnwys ein pobl ifanc a phobl hŷn. Plaid sydd â’r gallu i roi cyfle i’r bobl hyn leisio eu barn ar faterion lleol sy’n bwysig iddyn nhw ac i ddarganfod datrysiadau positif gyda’n gilydd,” meddai Mici Plwm.

"Mae Plaid Gwynedd wedi dangos eu bod yn gallu llywodraethu yn gyfrifol mewn amser o doriadau a newid i lywodraeth leol tra ar yr un pryd yn gwneud eu gorau glas i greu dyfodol llewyrchus i bobl Gwynedd.”

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd, Y Cynghorydd Dyfed Edwards: “Rwy’n falch o gael cyhoeddi bod Mici Plwm wedi rhoi ei enw ymlaen i fod yn ymgeisydd. Bydd yn gaffaeliad mawr i bobl Clynnog ar Gyngor Gwynedd, pe bae’n llwyddo i gael ei ethol yn Gynghorydd Sir ym mis Mai.”

"Fel cynghorwyr, gallwn weithio yn effeithiol o fewn Tîm Gwynedd, tîm pwerus sy’n gweithio’n dda ar bob lefel o lywodraeth o Gyngor Gwynedd i Senedd Ewrop. Rydym hefyd yn falch o'n cymunedau, yn ymfalchïo yn ein sir ac yn ein gwlad.”

Bydd Plaid Cymru Gwynedd yn lansio’i ymgyrch etholiadau lleol nos Iau yng Nghlwb Pêl droed Porthmadog. Mae aelodau Plaid ar draws Gwynedd wedi eu gwadd i’r digwyddiad.

Rhannu |