Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mawrth 2012

Angen gwirfoddolwyr i glirio ein harfordir

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu gyda’r digwyddiad ‘Glanhau Llwybr Arfordir Cymru’. Am ragor o wybodaeth ewch i’r wefan www.cadwchgymrundaclus er mwyn cymryd rhan neu cofrestri digwyddiad eich hun. Ar hyn o bryd, mae mwy na 30 o ddigwyddiadau wedi eu trefnu ar draws y llwybr ac o leiaf un ym mhob awdurdod arfordirol.

Cynhelir y digwyddiad ‘Glanhau Llwybr Arfordir Cymru’ yn ystod penwythnos 27–29 Ebrill a bydd Cadwch Gymru’n Daclus ynghyd â grwpiau cymunedol lleol yn trefnu digwyddiadau ar hyd y llwybr cyfan. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl Cymru ac ymwelwyr dreulio awr neu ddwy’n darganfod y llwybr a chodi’r sbwriel sydd yn ei anharddu.

Bydd Llwybr Arfordir Cymru’n cael ei lansio ar y 5 Mai, ac mae Cadwch Gymru’n Daclus, yr ymgyrchwyr amgylcheddol, yn paratoi ar gyfer hynny trwy drefnu digwyddiad penwythnos i glirio cymaint o sbwriel ag y bydd modd oddi ar arfordir Cymru er mwyn ei ddangos ar ei orau – a bydd angen gwirfoddolwyr i helpu gyda’r gwaith.

 

Pan agorir Llwybr Arfordir Cymru, sydd yn 870 milltir o hyd, mi fydd llwybr cerdded di-dor o amgylch Cymru i gyd a Chymru fydd yr unig wlad yn y byd lle bydd modd cerdded ar hyd yr arfordir i gyd. Cafodd arfordir Cymru ei enwi gan arweinlyfr teithio’r Lonely Planet y “Lle Gorau ar y Ddaear" i fynd ar ymweliad yn ystod 2012. Yng Nghymru mae 41 o draethau a phump marina wedi derbyn y Faner Las, sef cydnabyddiaeth ryngwladol o’u safon.

Dywedodd Joanna Friedli, Cydlynydd Prosiectau Cadwch Gymru’n Daclus: “Bydd ddigwyddiadau yn addas ar gyfer pawb a dyma gyfle ardderchog i deuluoedd, grwpiau cymunedol, ysgolion ac aelodau’r cyhoedd i weld y llwybr. Ewch i’n gwefan a cofrestrwch er mwyn sicrhau bod y llwybr yn lân ar 5 Mai.”

Rhannu |