Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mawrth 2012

'Rhaid cael taliad teg i Gymru am ein dŵr'

Bydd trethdalwyr Cymreig yn talu i leihau cyfraddau-dŵr yn Ne-orllewin Lloegr a thuag at adeiladu prosiect £4.1 biliwn i wella gwasanaethau carthffosiaeth yn Llundain. Dyma ganlyniad uniongyrchol Mesur (Cymorth Ariannol) y Diwydiant Dŵr, a gafodd ei Drydydd darlleniad yn Nhŷ’r Arglwyddi yr wythnos yma.

Cafodd y Llywodraeth ei herio gan yr Arglwydd Dafydd Wigley o Blaid Cymru, a fynnodd, gan nad yw’r mesur yn caniatau taliadau tebyg i Gymru gan fod dŵr yn fater datganoledig, y dylai taliad ôl-ddilyniant Barnett ddod i’r Cynulliad Cenedlaethol yn unol gyda’r gwariant a alluogir yn Lloegr gan y Mesur hwn.

Fe wnaeth yr Arglwydd Taylor o Holbeach, Gweinidog y Llywodraeth oedd yn ymateb i’r ddadl, ei orau i osgoi unrhyw ymrwymiad.

Er hynny, awgrymodd yr Arglwydd Taylor pe bai unrhyw gynlluniau newydd i symud dŵr o gyflenwadau Cymru yn y dyfodol i daclo prinder dŵr yn Lloegr, yna “dylai unrhyw drefniant o’r fath gael sêl bendith yr awdurdodau datganoledig Cymreig.”

Dywedodd yr Arglwydd Wigley: "Mae’r sicrwydd na fydd yno unrhyw brosiectau newydd i symud dŵr o Gymru heb gytundeb y Cynulliad yn ddatganiad arwyddocaol.

“Er hynny mae’r cwestiwn am system taliad teg ar gyfer dŵr a gymerir o Gymru i’w ddefnyddio yn Lloegr yn parhau heb ei ateb. Mae’r cwestiwn ynglyn ag ôl-ddilyniant Barnett am y gwariant a ddarperir gan y Mesur hwn yn fater mawr a all fod werth dros £100m i’r Cynulliad.

Cododd yr Arlgwydd Wigley y mater unwaith eto yn yr Arglwyddi yn ystod sesiwn holi y bore yma.

Ychwanegodd: “Cefais addewid gan yr Arlgwydd Taylor y byddai’n ysgrifennu atof am yr ôl-ddilyniant Barnett ac rwy’n edrych mlaen at ddarllen ei ymateb.

“Mae hefyd angen symud tuag at system fwy cyfiawn ble y gall Cymru elwa o’i hadnoddau naturiol helaeth.”

Llun: Yr Arglwydd Wigley

 

Rhannu |