Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mawrth 2012

Ystafelloedd dosbarth digidol ar gyfer oes ddigidol

Heddiw, mae Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg, wedi cael adroddiad terfynol y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ddulliau Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth. Mae’r adroddiad yn amlinellu sut y gall ysgolion yng Nghymru greu ystafelloedd dosbarth digidol ar gyfer oes ddigidol.

Janet Hayward, sy’n bennaeth ar Ysgol Gynradd Cadoxton ar hyn o bryd, oedd arweinydd y grŵp. Aeth y grŵp ati i ystyried pa ddeunyddiau digidol sy’n gweithio yn yr ystafell ddosbarth a sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau bod darpariaeth ddigidol ym mhob ysgol yng Nghymru.

Mae nifer o argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys creu ‘hwb’ digidol er mwyn i ddysgwyr ac athrawon fedru rhannu adnoddau a’r arferion gorau. Mae’r adroddiad yn argymell hefyd y dylid creu casgliad digidol cenedlaethol o adnoddau addysgu a dysgu.

Bydd y Gweinidog yn mynd ati bellach i ystyried yr holl argymhellion yn yr adroddiad i weld sut y gellir cryfhau technoleg yn yr ystafell ddosbarth er budd dysgwyr yng Nghymru.

Dywedodd Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg: “Gall technolegau newydd gynnig ffyrdd newydd o ennyn diddordeb dysgwyr ac maen nhw’n gallu gweddnewid y modd rydyn ni’n cyfathrebu ac yn rhannu gwybodaeth gyda’n gilydd yn yr 21ain ganrif.

"Ymhlith y technolegau hynny y mae cynnwys digidol, mynediad di-wifr mewn ystafelloedd dosbarth, cyfrifiadura cwmwl, a dyfeisiau symudol sydd â sgriniau cyffwrdd ac sy’n cael eu dal yn y llaw.

“Dyw hi ddim yn afresymol i ddysgwyr, rhieni ac athrawon fedru disgwyl i’r dechnoleg y maen nhw’n ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd fod ar gael hefyd ym myd addysg. Mewn ysgolion ym mhob cwr o Gymru, gallwch chi weld amrywiaeth eang iawn o dechnolegau yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd arloesol i addysgu a dysgu.

“Mae’n bwysig bod technoleg briodol ar gael i bob dysgwr ac i bob athro, a bod ganddyn nhw’r hyder i’w defnyddio. Rydyn ni’n gwybod bod arferion da i’w gweld yn ein hysgolion, ond fel gyda llawer o bethau ym myd addysg, mae’n bwysig bod pob ysgol yn cael dysgu am y syniadau gorau, a chyfle i’w rhannu.

“Dw i am weld Cymru yn arwain yn ffordd ar gynhwysiant digidol ac ar ddysgu digidol, ac mae’r adroddiad hwn yn dangos sut gallwn ni gyrraedd y nod yn hyn o beth.”

Dywedodd Janet Hayward, Cadeirydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen, “Mae’n amlwg bod enghreifftiau o arferion eithriadol yng Nghymru o ran defnyddio technoleg i wella deilliannau dysgu. Mae gennym sail gadarn y gallwn ni adeiladu arni.

“Dyw’r argymhellion ddim yn darparu templed penodol ar gyfer “ystafell ddosbarth ddigidol”. Yn hytrach, maen nhw’n amlinellu gweledigaeth, gan nodi bod angen mynd ati i annog dysgwyr ac athrawon i ddefnyddio technoleg, a’u cynorthwyo i wneud hynny. Mae’r argymhellion hefyd yn amlinellu sut gallwn ni ddatblygu a rhannu cynnwys o’r radd flaenaf, a dyna pam y penderfynon ni ar yr enw Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu - dysgu yn y Gymru ddigidol.

“Rydyn ni’n falch iawn o fedru cyflwyno’n hadroddiad terfynol i’r Gweinidog. Roedd yn llafur cariad i’r grŵp. Rydyn ni’n obeithiol iawn mai dyma’r cam cyntaf ar hyd y daith i sicrhau’r cyfleoedd dysgu gorau i Gymru.”

Llun: Leighton Andrews

Rhannu |