Mwy o Newyddion

RSS Icon
29 Mawrth 2012

Awgrym o dro pedol gan Lafur dros bwerau dŵr

Mae Plaid Cymru wedi galw am eglurhad gan y blaid Lafur o’u polisi ar bwerau dros adnoddau dŵr.

Gwnaeth AC Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones, yr alwad yn dilyn sylwadau gan Weinidog Llafur yr Amgylchedd yn ystod cwestiynau yn y Senedd.

Dywedodd Ms Jones fod sylwadau’r Gweinidog fel petaent yn arwydd o newid yn safbwynt Llafur ynghylch ag a ddylai Cymru gael rheolaeth lawn dros ei hadnoddau dŵr.

Meddai AC Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones: “Mae’n ymddangos fod Llafur yn gwneud tro pedol eto fyth ar bolisi. Mae Plaid Cymru yn wastad wedi ymgyrchu am i bwerau llawn dros adnoddau dŵr Cymru gael eu cadw yma yng Nghymru.

"Yr ydym ni’n credu y dylid harneisio potensial adnoddau naturiol Cymru er lles pobl Cymru, a llywodraeth Cymru sydd yn y lle gorau i ofalu bod hyn yn digwydd. Fodd bynnag, mae Llafur yn wastad wedi gwrthwynebu’r galwadau hyn, ac yn ôl yn 2006, mynasant gynnwys cymal yn Neddf Llywodraeth Cymru yn cadw’r rheolaeth derfynol dros adnoddau dŵr yn San Steffan.

“Pan holais Weinidog Llafur yr Amgylchedd y prynhawn yma, roedd ef fel petae yn dweud ei fod eisiau gweld datganoli pwerau llawn dros adnoddau dŵr i Gymru. Mae’n bwysig fod Llafur yn egluro eu safbwynt ar y pwnc pwysig hwn fel mater o frys.

"Byddai dwyn adnoddau naturiol Cymru dan reolaeth Gymreig yn caniatáu i ni elwa yn yr un modd ag y mae cenhedloedd eraill yn elwa o’u hadnoddau. Yn nhystiolaeth Plaid Cymru i Gomisiwn Silk, rydym wedi galw am drosglwyddo cyfrifoldebau dros ein hadnoddau naturiol gan gynnwys dŵr."

Llun: Elin Jones

Rhannu |