Mwy o Newyddion
Llafur yn siomi cleifion ar fater oriau agor
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo’r llywodraeth Lafur o siomi cleifion ar fater oriau agor meddygon teulu wedi iddi ddod i’r amlwg nad atebwyd un o ymrwymiadau allweddol eu maniffesto.
Ymddengys bod ymrwymiad i gadw meddygfeydd ar agor gyda’r nos ac ar benwythnosau yn golygu mai 31% o feddygfeydd yn unig sy’n ateb y gofyniad i fod ar agor ‘tan 6.30pm ar ddyddiau’r wythnos.’
Dywedodd y Llywodraeth Lafur y bydd yn dechrau ymchwilio i weld sut i weithredu eu hymrwymiad i agor meddygfeydd meddygon teulu gyda’r nosau yn ystod yr wythnos ac ar foreau Sadwrn, ym mis Ebrill 2013, a bydd yn ceisio gwneud hynny o fewn y gyllideb bresennol.
Meddai llefarydd Plaid Cymru ar iechyd Elin Jones: “Mae’r ffigyrau hyn yn dangos graddfa’r her mae’r llywodraeth yn wynebu o ran ateb eu hymrwymiad i ymestyn oriau agor ac agor meddygfeydd ar foreau Sadwrn. O gofio hyn, mae cwestiwn mawr dros honiad y llywodraeth fod modd gwneud hyn heb ddim cost ychwanegol.
“Mae Plaid Cymru yn cefnogi ymrwymiad y llywodraeth i wneud meddygfeydd meddygon teulu yn fwy hygyrch mewn egwyddor, ond mae’n amlwg nad yw’r polisi hwn yn cael ei weithredu yn effeithiol.
"Dyma un o ymrwymiadau allweddol maniffesto Llafur, ac eto, maent wedi penderfynu aros i ddwy flynedd o’u tymor fynd heibio i’w gychwyn. Mae diffyg symud Llafur yn siomi cleifion Cymreig.”
Llun: Elin Jones