Mwy o Newyddion
![RSS Icon](../../../../../../../creo_files/css_themes/default/standard_icons/icon-rss-2.gif)
![](../../../../../../../creo_files/upload/article/Ian-Jones.jpg)
27 Mawrth 2012
Rheolwyr S4C yn rhoi’r gorau i hawliau dau gynllun buddiannau
Mae Prif Weithredwr S4C, Ian Jones wedi cadarnhau bod aelodau tîm rheoli’r sianel wedi gwirfoddoli i roi’r gorau i’w hawliau o dan ddau gynllun buddiannau fel rhan o’r ymdrechion i wneud arbedion ariannol mewnol.
O ganlyniad, bydd eu hawl i gael ceir cwmni’n dod i ben ym mis Medi eleni, a’u hawl i yswiriant iechyd preifat yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn.
Llun: Ian Jones