Mwy o Newyddion
Galw am drafodaethau brys ynglŷn â cholledion swyddi
Mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, wedi galw am drafodaethau brys gyda Scottish Power ynglŷn â'r cyhoeddiad bod bygythiad i symud 32 o swyddi o Gaernarfon i Wrecsam.
Meddai Mr Williams o'i swyddfa etholaeth yng Nghaernarfon: "Mae Scottish Power yn bwriadu symud gweithwyr o Gaernarfon i Wrecsam, a fyddai'n golygu taith ddyddiol o fwy na 125 milltir. Mae hyn yn gynnig hollol afrealisting i'r rhan fwyaf o bobl a'r tebygrwydd yw y bydd nifer o bobl leol yn colli eu swyddi.
"Mae hon yn ergyd arall i'r economi a'r gweithlu lleol, wrth i wasanaeth sy'n bwysig iawn i'r cyhoedd gael ei symud i ddwyrain Cymru*."
"Mae'r math hyn o swyddi yn werthfawr iawn i Gaernarfon, a bydd y gweithwyr yn ei chael yn anodd dod o hyd i swyddi eraill tebyg yn lleol.
"Rwy'n hynod siomedig fod Scottish Power wedi dod i'r penderfyniad hwn. Bydd yn cael effaith niweidiol tu hwnt ar bobl yng Nghaernarfon a'r ardal.
Ychwanegodd Mr Williams, sydd wedi galw am gyfarfod brys gyda Scottish Power i drafod y sefyllfa: "Mae'r gweithwyr yng Nghaernarfon yn darparu gwasanaeth Cymraeg i gwsmeriaid, a go brin y gall Scottish Power gynnal y gwasanaeth hwnnw os byddant yn symud y swyddi hyn.
"Rydyn ni'n gwybod o'r hyn mae sefydliadau eraill wedi ei ddweud ei bod bron yn amhosibl recriwtio staff gyda'r sgiliau a'r hyfforddiant cywir ac sy'n gallu siarad Cymraeg yn Wrecsam."
Llun: Hywel Williams