Moduro

RSS Icon
16 Mawrth 2012
Huw Thomas

Diwygio cyn y chwyldro

LLENWI bwlch wnaeth Exeo SEAT. ‘D oedd dim car canol-uwch cystadleuol gan is-gwmni Sbaen Grwp Volkswagen nac ystad (pwysicach fyth yma). Adfer cyn A4 Audi (2000-2007) yn sylfaen wnaed yn 2009 gan gynnig sedan ac ST (ystad). Eleni bu diwygio pellach arno: ymbincio allanol; olwynion aloi newydd; goleuadau blaen bi-xenon; caboli oddi mewn; peiriannau CO2-lanach a llwnc ysgafnach.

Yr oedd mwy i Exeo 2009 na phryd a gwedd. Cafodd beiriannau diweddaraf VW gan gynwys Diesel 2.0 litr cronfa ganol: 120, 140 (143 bellach); 170 marchnerth. Dramor, mae 1.6, 1.8, 2.0 petrol ond, yma, dim ond y 2.0 TSI: 211m/n: 148mya; 0-62 ymhen 7.3 eiliad; £24,430 Sport (£23,375 sedan). Daeth blwch 6 ger (nerth braich) llyfn gydnaws i’w canlyn hefyd a bu cryn waith ar y crogiant a’r sadwyr.

Go gaboledig ei gorffwaith a’i gaban o hyd, cysurus yw hi oddi mewn - safle yrru dda. Gyrriant blaen (yn unig) yw’r patrwm, ‘d oes dim son am 4x4 quattro Audi (mwy soffistigedig na 4x4 rhelyw Grwp VW). S, SE, SE Tech, Sport, Sport Tech yw’r dewis: £20,650-£25,650 (£1,000/£1,200 drytach model am fodel na’r sedan).

Gall y 2.0 TDI CR Diesel 143m/n Sport (£22,630) gyrraedd 130mya; 0-62 ymhen 9.6 eiliad. Ymateb yn dda i dorch y peiriant ac wmff ychwanegol y gwefrwr tyrbo wna’r gerio. Hyderus-gyhyrog, mae digon o fynd ynddo. Echel ol gywrain ac aml-gymalog eisoes a siasi ddiwygwyd mae’n well car na’r A4 blaenorol.

Yswiriant 24E (1-50). Llwnc swyddogol: 56.5myg, 42myg darbodus iawn ar brawf (46+ beunyddiol dyweder); CO2 132g/km-Tr.Ff.’F’-£115 rhesymol hefyd. Hael yw arlwy’r model ‘S’ rhataf un: cyfathrebu ‘Bluetooth’, nawsaeru deuol, olwynion aloi, ffenestri/drychau trydan; prif oleuadau halogen, awdio/Cr.Dd./At-blwg/USB, breciau ABS/EBA, sadio trydanegol ESP, cloi canolog o bell ac ati.

Er mai cul a byr yw’r Exeo bellach, cynnil o’i gymharu a rhelyw’r canol-uwch (sylweddol erbyn hyn), ymarferol yw’r ST. Seddi ol sy’n plygu’n fflat a phlwg 12v atodfol yno hefyd ynghyd a chilfachau ar gyfer trugareddau teulu neu orchwyl.

Gall yr Exeo gymharu a’r blaenoriaid: Mondeo Ford (olynydd ar gyrraedd); Passat VW; Superb Skoda (car mwyaf y garfan); Insignia Vauxhall; 508 Peugeot; Mazda6 (olynydd ar gyrraedd). Deinamaidd gymeradwy os nad y gorau un.

Ond aros pryd yw hyn i gyd. Hebrwng cynllun newydd wna A3 Audi eleni a Golf VII 2013. Nid llwyfan ond adeiladwaith gyflawn all lwyfannu’r uwchfini (Polo), canol-is (Golf) a chanol uwch (Passat). Bydd gan Audi rywbeth tebyg – ar gyfer peiriant sy’n wynebu tua’r blaen (clasurol), gyrriant o du ol iddo a quattro 4x4. Yn y cyfamser, diwygio go ddefnyddiol (cyn y chwyldro) welir gydag Exeo 2012.

 


Zafira Tourer Vauxhall: £21,000-£28,465 yma’r mis hwn
Gwerthu’n gryf wnaeth cludydd cynnil Vauxhall, y Zafira, ers 1999 a’i adnewyddu yn 2005. Bu’n geffyl blaen am gyfnod maith – hyd yn oed yn Hydref ei ddyddiau. Bydd yn goroesi’r car newydd, meddid, gan fod gofyn amdano: £14,000-£25,000.

Mwy o faint yw’r Zafira Tourer a thipyn drytach y prisiau gofyn. Cyfuno elfennau’r Insignia (canol-uwch) tua’r blaen ac Astra oddi ol wna sylfaen y Zafira Tourer – “hannu” o’r canol-is felly ond y bwriad yw gallu cystadlu a rhai o gludyddion mwy eu maint, S-Max Ford, e.e., a pharthed hwnnw mae’n rhatach o ryw £1,000.

Arloesi’r cludydd cynnil saith sedd (5+2) wnaeth y Zafira a gwella ar hynny wna hwn. Gellir plygu sedd ganol yr ‘ail res’ a’i droi’n fraich-orffwys tra llithro yn ol ac i mewn wna’r ddwy sedd arall gan greu llawer mwy o le ar gyfer dau deithiwr. Achlysurol y seddi cefn ond plygu’n fflat wna’r cyfan gan greu llwyth ofod eang..

Ffafriol fu argraff y rhagolwg – doniau deinamaidd siarp-fanwl a chymeradwy, os ar draul reid sy’n llai na llyfn ar brydiau. Heini yw’r unedau Diesel os hyglyw ac aflafar braidd. Cafwyd gryn hwyl ar y Zafira newydd – mwy amdano yn y man.


 

Rhannu |