Moduro

RSS Icon
S60Volvo
04 Chwefror 2011
Huw Thomas

S60 Volvo - Sylweddol, safonol a siapus

ERS 850 gyrriant blaen cyntaf 1992 - gwariodd Volvo bentwr o arian ar newid ei ddelwedd. Gyda gwefrwr tyrbo a moduron 5 silindr newydd, egniol oedd y ‘T’ ac ‘R’. Daeth y ceir yn fwy siapus ac ‘enwau’ cyfoes: S – sedan; V – Ystad; XC – SUV neu SUV debyg. Y llynedd daeth yr S60 a V60 diweddaraf ar gyfer 2011.

Pedwar drws ond coupe-debyg, tra gwahanol i’w ragflaenydd yw’r S60 bellach. Amlwg dan lifrau’r heddlu fu’r V70 a hirhoedlog yr XC90 SUV-aidd. Anhysbys ei olwg, “brawd llwyd” y cysgodion oedd yr S60. Prin y cwsmeriaid preifat.


Y Car –

Pen-y-Bont sy’n adeiladu T6 petrol 3.0 litr 304m/n gyrriant 4x4 pencar y modelau ond D3/D5 Diesel yw’r dewis amlwg. (Mae T5/T4/T3 petrol ar gael – 5 silindr oll – ac hefyd 1.6 DRIVe Diesel eco-deyrngar os llai na ‘brwd’.) Serch y rhifo dyrys, 5 silindr yw’r D3 a D5 hefyd ond 2.0 litr sy’n cynhyrchu 164m/n yw’r D3 tra 2.4 litr, deu-dyrbo, 205m/n yw’r D5. Gyrriant blaen yw pob S60 yma heblaw’r T6.

Er gwerthu Volvo (ceir nid y tryciau) i Geely, Tseina datblygwyd yr S60 newydd dan deyrnasiaeth Ford. Etifeddodd gryn dipyn o allu deinamaidd y Mondeo a go fanwl yw’r llywio, cornelu a chorff-reolaeth heb amharu ar safon (gysurus) y reid.

Allwedd-eiriau Volvo yw ymgeledd a diogelwch, wrth gwrs. Arloesi dyfais radar-camera-cyfrifiadur ar flaen y car wna’r S60 sy’n canfod oedolyn neu blentyn gan ddatgan, arafu neu hyd yn oed stopio’r car os na sylwodd y gyrrwr mewn pryd. Ond rhaid talu arian pellach am gymorth parcio clyweledol ac ychwanegu sbid reolydd “effro”, rhybudd ceir yn pasio neu groesi lonydd traffordd, camera blaen.


Manylion –

ES, SE ac SE Lux; £22,495-£36,805; D3 £25,315-£30,495; 6 ger nerth braich; 137mya; 0-62mya 8.7 eiliad; 53.3myg swyddogol; 34-37myg darbodus iawn ar brawf; CO2 139g/km; Tr.Ff.’E’/£110 rhesymol; Yswiriant 29E (1-50).


Y Gystadleuaeth –

Goreuon ‘gwerin’ y canol-uwch: Passat VW (2011); Accord Honda (diwygio buan); Mondeo; Insignia Vauxhall; Mazda6; Superb Skoda. Mae Volvo’n agos at y crach-enwau hefyd: Audi (gall gystadlu yn erbyn y criw gyrriant blaen) os nad mor rwydd a BMW neu Mercedes-Benz gyrriant ol clasurol.


Dyfarniad –

Sylweddol, safonol a siapus iawn bellach. Caboledig oddi mewn, caffaeliad yw Diesel 5 silindr Volvo sy’n hynod gydnaws a delwedd syber-goeth y car. Serch doniau deinamaidd mwy heini a manwl na chynt, car teithiol yw hwn nid tra-chwim (ag eithrio’r T6 hwyrach). Diymdrech a di-flino, pe bai rhagor o fersiynau 4x4 ar gael yma gallai wneud i Audi ddeffro. Nid brawd llwyd mohonno mwyach.

Rhannu |