Moduro

RSS Icon
11 Chwefror 2011
Huw Thomas

Micra Nissan - car tref a maesdref

PRYNWR cydrannau Cymreig pwysig oedd Nissan Sunderland y dyddiau cynnar. Primera ac yna Almera a Micra, daeth QashQai a Note wedyn. Daw’r Micra IV o India ond mae’r QashQai a Note yno o hyd a char newydd Sunderland yw’r Juke.

Daeth y Micra I ym 1982 a’r Micra II ym 1992. Hwnnw a Micra III (2002-10) oedd ceir Sunderland – 2,368,704 i gyd a 40% o waith cyfan y lle ers 1986. Uwchfini dim mwy na’i ragflaenydd (yn groes i’r rhelyw diweddar), mae mwy o le tu mewn trwy gynllunio’r caban a’i ddodrefn yn well meddid. Saif rhwng y Pixo (fersiwn ar Alto Suzuki) a’r Note cludydd debyg sy’n chwaer-gar i Clio-Modus Renault.

Hatch 5 drws, dau beiriant a dewis rhwng 5 ger nerth braich (dim 6 ger ysywaeth) a CVT (newidiol-barhaol) awtomatig yw hyd a lled pethau. Nid oes Diesel – yn ol Nissan megis Honda, petrol sy’n ymarferol a drud fuasai Diesel bychan glan UE dderbyniol. Uned 1.2 litr, 3 silindr, 80 marchnerth i gychwyn: 105mya; 0-62 13.7 eiliad; 56.5myg swyddogol; CO2 115g/km-‘C’/£30 (5 ger NB - CVT nid cystal).

Yn yr Haf bydd fersiwn “uwchwefrwr” a chwistrellu petrol uniongyrchol: 98m/n ac, er bywiocach dipyn meddid, CO2 lanach lawer (95g/km-‘A’-£0). Prisiau: £9,250-£12,350. Yswiriant 11-15. Dim drytach na chynt, mae’n rhatach meddid na Yaris Toyota, Swift Suzuki neu i20 Hyundai ond rhaid talu ymhellach am nawsaerydd.

Swynol-frwd yw peiriant y Micra newydd a go gysurus yw hi wrth y llyw - i yrrwr eithaf tal hyd yn oed. ‘Aeddfed’ a digon cyson cysurus hefyd y reid, cornelu a llywio. Ond rhagori wna blaenoriaid y garfan: Fiesta Ford; Polo VW; Mazda2; Fabia Skoda; Ibiza SEAT; Swift Suzuki. Diwedd y gan yw’r geiniog ac os y Micra, y pris fydd hi. Car tref a maesdref sy’n hawdd i’w yrru – dyna’i filltir sgwar.

Rhannu |