Moduro

RSS Icon
24 Tachwedd 2011
Huw Thomas

Dau Gymro’n ennill gwobrau gohebwyr moduro Cymru

Plas Newydd, cartref ardalyddion Mon, ddewiswyd gan Ohebwyr Moduro Cymru ar gyfer cyflwyno Gwobr Goffa Tom Pryce a’u Gwobr Fodurol Arbennig eleni.
Cyflwynodd Arglwydd Raglaw Gwynedd, Ei Anrhydedd Huw Morgan Daniel y Wobr Goffa i Nick Reilly CBE, Llywydd General Motors Ewrop. Ei gyd-Gymro a Chadeirydd Vauxhall Motors, Bill Parfitt CBE dderbyniodd y Wobr Fodurol Arbennig.
Nos Sadwrn, yng nghinio blynyddol y gymdeithas ym Modysgallen, llongyfarchwyd y ddau gan Arglwydd Raglaw Clwyd, Trefor Glyn Jones CBE ac is-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David I Jones AS.
Ganwyd a magwyd Nick Reilly ar Ynys Mon a bydd yn ymddeol fis Mawrth nesaf. Gall daflu golwg dros 37ain blwyddyn gyda’r cwmni a swyddi blaenllaw yn Asia, Ewrop ac America Ladin.
Ef lwyddodd i brynu gweddillion Daewoo Motor De Corea yn 2002 a’u troi’n gyfrwng trawsnewid Chevrolet yn is-gwmni bydeang i GM. Aeth rhagddo wedyn i arolygu datbygiad y Gorfforaeth ar draws y Dwyrain a Deheudir America.
Dychwelodd i Ewrop yn 2009 i gipio’r awennau yn ystod argyfwng fu gyda’r gwaethaf welodd y cwmni – a llwyddo eto. Cyn hyn oll bu’n Reolwr Cyffredinol Ellesmere Port ym 1990 ac yna Cadeirydd a Phrif Weithredwr Vauxhall Motors ym 1996. Y naill swydd a’r llall yn golygu cysylltiad agos a Chymru Ddiwydianol.
“Anrhydedd eithriadol yw derbyn y wobr hon” ddywed Nick Reilly “ac arbennig iawn hefyd gan fe’m ganwyd ergyd carreg oddi yma. Bydd yr achlysur hwn gyda chyfeillion yn y diwydiant ac ym mro fy mebyd yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori gydol gweddill fy mlynyddoedd.”
Derbyniodd Bill Parfitt y CBE i gydnabod ei gyfraniad i’r diwydiant fodurol fis Mehefin eleni. Gwr y de-ddwyrain ydyw – fe’i ganwyd nepell o Gasgwent. Cafodd yrfa hir a llewyrchus gyda rhai o enwau masnachol mwyaf adnabyddus y busnes cyn dod yn Gyfarwyddwr Lleng-Werthiant Vauxhall Motors ym 1998.
Daeth yn Gyfarwyddwr Gwerthiant, Marchnata ac Ol-Werthiant yn fuan gan arolygu is-gwmniau eraill GM (Chevrolet, SAAB, Cadillac ac ati) led led Gwledydd Prydain ac Iwerddon. Ychwanegwyd lleng-werthiant Ewrop i’w ddyletswyddau yn 2005. Bu’n Gadeirydd Vauxhall Motors ers 2008.
Diwygiodd Bill Parfitt y cwmni drwyddo draw a Vauxhall bellach sydd ben ben a Rhif 1 y farchnad (Ford) gyda thri o’i geir yn y ‘Deg Uchaf’.
“Cymru fu ‘milltir sgwar’ blynyddoedd allweddol fy ngyrfa” ddywed Bill Parfitt “a bum yn pregethu a gweithio dros y sector fodurol yma fyth ers hynny. Braint enfawr yw derbyn y wobr hon gan GMC a fy nghyd-Gymry.”
Yn ol Huw Thomas, Cadeirydd GMC, “Cyfle gwych fu hwn i gydnabod cyfraniad eithriadol Nick Reilly a Bill Parfitt i’r diwydiant. ‘Blaenor y Byd Modurol’ yw arysgrif y Tlws eleni – a gwir y gair. Dyma un o arweinyddion bydeang y busnes. Cyflawnodd Bill Parfitt ‘dyrn o waith’ eithriadol eto gyda Vauxhall gan adfer a meithrin y cysylltiad a Chymru a’i gweithgareddau modurol holl-bwysig”


Ol-Nodyn ar y Gwobrau –
1. Bu farw Tom Pryce, gyrrwr rasio gorau Cymru, yn ystod Grand Prix Kyalami, De’r Affrig. Rhedodd swyddog tan ar draws y trac o flaen ei gar a lladdwyd y naill a’r llall ohonynt. Cyflwynir y Wobr gan GMC er coffa amdano i gydnabod cyfraniad eithriadol gan Gymro neu Gymraes i fyd trafnidiaeth. Gall fod yn rhodd corfforaethol hefyd os bydd cysylltiad arbennig a Chymru.
2. Cyflwynir Gwobr Fodurol Arbennig GMC i gydnabod cyfraniad rhagorol I’r sector fodurol. Derwen Sessile (o gyffiniau Caerfyrddin) fu deunydd y fuddged eleni osodwyd ar sylfaen aliwminiwm sy’n cynwys yr arysgrif.

Lluniau: Nick a Susie Reilly ym Mhlas Newydd gyda GMC (Gohebwyr Moduro Cymru nid
General Motors Corporation … am unwaith!).
Llun gan David Parry-Jones

Arglwydd Raglaw Gwynedd, Huw Morgan Daniel; Nick Reilly; Bill Parfitt; Huw Thomas

Rhannu |